| Gwefan y Mis |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| THURSDAY, 29 APRIL 2010 12:46 |
|
Mae'n siŵr eich bod yn dechrau dod i ddeall y busnes Gwefan y Mis yma erbyn hyn. Ond i'r rhai ohonoch sy'n newydd yma, mae'n ddigon amlwg. Bob mis rydym yn eich cyflwyno i wefan newydd wych yn llawn o bethau diddorol a hwyliog wedi eu dylunio i hybu byw yn iach i blant a theuluoedd. Felly heb oedi mwy, ein Gwefan y Mis y mis yma yw... Mae gan Kidnetic.com bopeth sydd ei angen arnoch i ennyn diddordeb plant mewn byw yn iach. Mae yno lwyth o wybodaeth ar fwyta'n iach gyda llwythi o ryseitiau y gall plant helpu i'w gwneud ac y byddan nhw wrth eu bodd yn eu bwyta. Ydych chi'n ffansio bwyta Scrumptious Cinnamon Toast neu Rockin' Red Potato Salad? Mae'r rheiny yno a llawer mwy. Mae adran o'r enw 'Gross Out Delights' sy'n cynnwys rhyfeddodau fel Edible Apple Lips a Brewed Monkey Brain Stew. Mae'n swnio'n ofnadwy i ni hefyd, ond bydd plant wrth eu bodd mae'n siŵr! Wedyn mae llu o weithgareddau llawn hwyl fel helfeydd sborionwyr a heriau ffitrwydd i gael plant i wneud ymarfer corff. Unwaith y byddwch wedi gwneud gweithgaredd gallwch herio eich ffrindiau i ymuno a gweld sut maen nhw'n gwneud hefyd. Mae 'na adran 'Dysgu' hefyd ar y wefan lle mae nifer o erthyglau diddorol am sut i gadw'n iach ac a fydd, yn ddiamau, yn dysgu ambell i beth newydd i rieni a phlant fel ei gilydd. Mae yna hefyd rywbeth sy'n cael ei alw'n Kidnector - er, â bod yn onest, dydyn ni ddim wir yn siŵr beth mae hwn yn ei wneud! Rhywbeth technegol sy'n ymwneud ag e-bost mae'n debyg! Wel, dyna ni am y mis yma. Mae digon o bethau ar Kidnetic i'ch cadw'n brysur, felly dewch yn ôl eto mis nesaf am Wefan y Mis arall. |
No current events.