| Gwybodaeth faethol yn gostwng calorïau yn ôl ymchwil |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| THURSDAY, 29 APRIL 2010 13:05 |
|
Mae astudiaeth yn awgrymu y Gall rhoi gwybodaeth faethol ar fwydlenni bwytai arwain at ddewis prydau is mewn calorïau i blant. Cynhaliodd academyddion a meddygol Americanaidd hap-brawf gyda rheolydd lle'r oedd plant rhwng 3 a 16 oed a'u rhieni'n cael eu hastudio wrth iddynt archebu bwyd. Nid oedd rhieni'n gallu cymryd rhan os nad oedden nhw'n bwyta bwydydd cyflym, os nad oedden nhw'n siarad Saesneg, os oedd eu plentyn yn rhy sâl, neu os oedden nhw eisoes wedi cymryd rhan. Fe gawson nhw eu rhannu'n grwpiau a rhoddwyd bwydlen bwydydd cyflym McDonalds iddynt. Yna gofynnwyd i'r rhieni ddewis bwyd ar eu cyfer eu hunain ac ar gyfer eu plant. Roedd pob bwydlen yn union yr un peth, ond roedd hanner ohonynt yn cynnwys gwybodaeth faethol am y bwyd oedd yn cael ei weini, megis y calorïau yn y bwyd. Gwelwyd fod y rhieni oedd yn archebu bwyd o'r fwydlen oedd â'r wybodaeth faethol yn archebu, ar gyfartaledd, 102 calori'n llai na'r rhai oedd â bwydlenni arferol. Fodd bynnag, gwelwyd nad oedd unrhyw wahaniaeth yn y calorïau yn y bwyd yr oedd y rhieni'i ei ddewis iddynt eu hunain. I ddarllen am yr astudiaeth mewn ychydig mwy o ddyfnder, cliciwch fan hyn. Beth yw'ch barn chi? Fyddai cael gwybodaeth faethol ar fwydlenni'n gwneud i chi ddewis bwyd iachach ar gyfer eich plant? Ysgrifennwch nodyn atom <http://www.bigwayoflife.com/en/contact> neu 'ewch i'r fforwm <http://www.bigwayoflife.com/support/forum>i rannu eich meddyliau. |
No current events.