| Jamie Oliver yn cael derbyniad cymysg wrth fynd â'i chwyldro bwyd ysgol i'r Unol Daleithiau |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| THURSDAY, 29 APRIL 2010 14:30 |
|
Mae pob un ohonoch wedi clywed am Jamie Oliver, ac mae'n siŵr eich bod i gyd yn ymwybodol o'i ymgyrch lwyddiannus i gael ffreuturau ysgolion yn y DU i weini bwydydd iachach. Bum mlynedd yn ôl cafodd Jamie 271,000 o lofnodion ar ei ddeiseb yn y DU, arweiniodd at y Prif Weinidog ar y pryd, Tony Blair, i fuddsoddi £280m i wella prydau bwyd ysgol. Nawr mae Jamie'n troi ei sylw at America - sy'n cael ei ystyried yn gyffredinol fel y wlad fwyaf afiach yn y byd. Mae Jamie's Food Revolution, sy'n cael ei ddangos fel rhaglen deledu ar rwydwaith ABC, yn canolbwyntio ar ysgolion yn Huntingdon, Gorllewin Virginia, mewn ymdrech i newid eu meddylfryd mewn perthynas â phrydau bwyd ysgol. Fodd bynnag, mae Jamie eisiau defnyddio'r ysgol fel meincnod i ysgolion ar draws gweddill y wlad. Mae'n defnyddio technegau tebyg i'r rhai a ddefnyddiodd yn y wlad hon i ledaenu ei neges, gyda llawer o ryngweithio gyda disgyblion ac mae'n anelu at gael miliwn o lofnodion ar ei ddeiseb. Mae Jamie dros hanner ffordd at gyrraedd ei darged, yn cynnwys enwau mawr fel Ricky Gervais, Jennifer Anniston a Gwyneth Paltrow. Ond nid yw Jamie wedi cael y croeso cynnes y byddai wedi'i hoffi, gyda llawer o Americanwyr yn ei feirniadu am geisio gorchymyn beth y dylen nhw a'u plant ei fwyta. Mae Monique Feddey, myfyriwr yn y Central City Elementary School yn credu bod Jamie'n gwastraffu amser gyda'i gynllun, er ei fod yn bwriadu'n dda. Meddai, "Dwi'n credu ei fod yn waeth na'r hen fwyd. Mae'n well, ond mae hefyd yn waeth gan fod pobl yn ei wastraffu am nad ydyn nhw'n ei hoffi ac mae'n well achos ei fod yn iachach." Er nad yw myfyrwyr wedi eu darbwyllo eto, mae'r athrawon yn dangos fod ganddynt feddyliau llawer mwy agored. Meddai Pennaeth Central City Elementary, Patrick O'Neal, "Rwy'n gefnogol iawn i'r ddeiseb. Mae rheoli cinio ysgol y tu hwnt i'n gallu, ond mae rhaid iddo fod yn gyfrifoldeb y llywodraeth ffederal. Rwy'n gwybod fy mod i'n barod i newid ac mae'r cogyddion yn gefnogol, ond mae'n rhaid i ni gael y llywodraeth ar ein hochr er mwyn newid o fwydydd wedi'u prosesu." Os bydd Jamie'n cwrdd â'i nod o gael miliwn o lofnodion, bydd yn mynd â'i ddeiseb i'r Tŷ Gwyn mewn ymdrech i ddylanwadu ar ddeddfwriaeth genedlaethol. Yn y fan honno byddai'n debyg o gael cefnogaeth Michelle Obama, gwraig yr Arlywydd, sydd wedi sefydlu ei hymgyrch ei hun i frwydro gordewdra mewn plant ar draws y wlad. Am ragor o wybodaeth ar Jamie a'i Chwyldro Bwyd, ewch i'w wefan, fan hyn. |
No current events.