| Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn argymell lleihau brasterau dirlawn a siwgrau |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| THURSDAY, 29 APRIL 2010 14:33 |
|
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod haf 2009, mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi argymell bod gwneuthurwyr bwyd yn lleihau braster dirlawn mewn bwydydd fel bisgedi, cacenni, byns, siocledi a lleihau'r siwgr sy'n cael ei ychwanegu i ddiodydd meddal. Mae'r Asiantaeth hefyd am weld rhagor o feintiau llai, un dogn, ar gael gyda rhai o'r bwydydd hyn, sy'n cyfrannu llawer o'r braster dirlawn a'r calorïau yn ein diet. Mae'r Asiantaeth yn annog diwydiant i:
Ar hyn o bryd, yn y DU, rydym yn bwyta gormod o fraster dirlawn sy'n ffactor risg sylweddol mewn clefyd coronaidd y galon. Mae'r argymhellion penodol yn cynnwys:
Bydd argymhellion pellach yn dilyn yn yr haf ar gynnyrch llaeth a chig, crwst a byrbrydau sawrus. Mae'r argymhellion yn adnabod ac yn croesawu'r cynnydd y mae llawer o gwmnïau bwyd eisoes wedi'i wneud ac yn herio'r diwydiant bwyd cyfan i symud tuag at gynnyrch mwy iach. Mae'r Asiantaeth hefyd yn ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth o'r peryglon i'n calon o fwyta gormod o fraster dirlawn ac mae ganddi gyngor ar ffyrdd hawdd i dorri i lawr. |
No current events.