| 10 ap byw yn iach i'r iPhone |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| THURSDAY, 29 APRIL 2010 14:37 |
|
Efallai bod gan nifer fawr ohonoch bellach un o ffonau iPhone gwych Apple. Os felly, mae'n siŵr y bydd gennych bob math o ap i'ch helpu i wirio'r tywydd neu i wylio Eastenders neu ddysgu'r gitâr fâs neu siarad Mandarin neu ddysgu am arferion mudo'r llinos werdd. Mae 'na apps ar gyfer popeth. Maen 'na hefyd apps dirifedi all eich helpu i fyw yn iach. Mae llawer ohonyn nhw'n ddigon tebyg i'w gilydd, felly mater o ddod o hyd i'r rhai sy'n gweithio i chi yw hi. Yma rydyn ni wedi casglu at ei gilydd y deg ap gorau ar gyfer byw yn iach. Weightbot Gyda'r robot hwn sy'n tracio pwysau, gallwch osod nodau, tracio eich cynnydd, a rhagor. The Bike Computer: Bydd y rhaglen tracio GPS yn ei gwneud hi'n hawdd olrhain eich taith ar eich beic. Calories Burned Calculator: Wrth ddefnyddio'r gyfrifiannell hon ar gyfer yr iPhone, gallwch ganfod faint o galorïau rydych yn eu llosgi wrth wneud eich sesiwn ymarfer. BMI Calculator: Defnyddiwch y gyfrifiannell hon i gyfrifo amcan o indecs màs eich corff (BMI). Food Network: Bydd ap y Food Network yn rhoi ryseitiau a fideos bwyd iach i chi. iPhone Diet: Bydd yr ap hwn sy'n monitro maethiad yn eich helpu i gadw llygad ar eich diet a'ch iechyd Sensei for Weight Loss: App colli pwysau sy'n dysgu am eich dewisiadau a'ch ffordd o fyw i ddatblygu rhaglen addas ar eich cyfer. Mae Sensei'n darparu negeseuon i'ch ysbrydoli a chyngor gan arbenigwyr ac aelodau o'r gymuned. Food Additives: Mae'r ap hwn yn gadael i chi gael mynediad i dros 450 o ychwanegion bwyd. Gallwch osgoi'r rhai sydd â'r potensial i fod yn beryglus i'ch iechyd a gweld pa rai sy'n ddiogel. Mae'n wych ar gyfer rhieni, llysieuwyr a'r rhai sy'n ymwybodol o'u hiechyd. Nutrition Tips: Mae NutritionTips yn cynnwys casgliad cyfoethog o 500 a mwy o awgrymiadau defnyddiol a diddorol ar faethiad a ffeithiau iechyd maetheg wedi eu hysgrifennu'n gryno er mwyn eu gweld yn gyflym ac yn hawdd. Nutrition Menu: Cofnodwch faint o golesterol, protein, carbohydradau, braster, siwgrau a sodiwm y mae'ch plant yn eu bwyta gyda'r cofnod hwn. |
No current events.