Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Lleoliad gwaith newydd mewn iechyd, gofal cymdeithasol a lles
Lleoliad gwaith newydd mewn iechyd, gofal cymdeithasol a lles PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
FRIDAY, 28 Mai 2010 09:21

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) wedi lleoliad gwaith newydd fydd yn canolbwyntio'n benodol ar ddatblygu portffolio ar y we o Arfer Gorau mewn iechyd, gofal cymdeithasol a lles.

 

Maen nhw eisiau casglu enghreifftiau dan y penawdau eang canlynol:

  • Hunan Ofal ac Annibyniaeth
  • Gwella Mynediad i Wasanaethau ar gyfer Cymunedau Penodol
  • Cludiant Cymunedol
  • Gofal Lliniarol yn cynnwys hosbisau
  • Gwirfoddoli
  • Gofalwyr
  • Lleihau Derbyniadau a Gwella Rhyddhau o Ysbytai
  • Iechyd Meddwl
  • Gwella Iechyd a Hyrwyddo Lles
  • Modelau Arloesol i Ddarparu Gwasanaethau
  • Mentrau cymdeithasol
  • Datblygu'r gweithlu

Maen nhw hefyd yn anelu at drawsgyfeirio ac amlygu enghreifftiau o arfer gorau lle mae modd adnabod egwyddorion cyd-gynhyrchu. Gyda chyd-gynhyrchu, mae manteision darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus y trydydd sector yn cynnwys ei allu i:

  • Osod y defnyddiwr gwasanaeth neu'r gymuned yn y canol wrth gynllunio a threfnu gwasanaethau
  • Galluogi unigolion a grwpiau i drefnu eu cefnogaeth eu hunain ac i fynd i'r afael â'u hanghenion eu hunain
  • Rhoi adnoddau eraill ar waith (cyllid ychwanegol, gwirfoddolwyr ac adnoddau cymunedol)
  • Datblygu gallu tymor hirach o fewn cymunedau i gefnogi ac i gwrdd ag anghenion yr unigolyn a grwpiau

Y gobaith yw y bydd y gwaith yn cysylltu gyda goodpracticewales yn ogystal â gyda gwaith y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi bod yn ei wneud i gasglu arfer da o fewn gofal cymdeithasol.

Os ydych chi'n gwybod am enghraifft y credwch fyddai'n dda i'w rannu gydag eraill, cysylltwch gyda Michael Richards ar Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. . Gall enghreifftiau gynnwys prosiectau neu bartneriaethau sydd eisoes wedi eu sefydlu neu waith sydd newydd gychwyn.

LAST_UPDATED2
 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.