Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Wythnos gwirfoddolwyr yn talu'n ôl am y gwaith caled
Wythnos gwirfoddolwyr yn talu'n ôl am y gwaith caled PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
FRIDAY, 28 Mai 2010 09:23

Byddai llu o elusennau, busnesau a sefydliadau yn methu â bodoli o gwbl heb y gwaith gwych sy'n cael ei gyflawni gan wirfoddolwyr. Maen nhw'n rhoi o'u hamser er lles pobl eraill, ac mae'n cymryd rhywun arbennig iawn i wneud hynny.

 

Rhwng 1 a 7 Mehefin, mae gwaith caled y gwirfoddolwyr yn cael ei ddathlu gydag Wythnos Gwirfoddolwyr, wythnos gyfan lle bydd sefydliadau o'r sectorau cyhoeddus, preifat ac elusennol yn cynnal partïon a seremonïau gwobrwyo i ddiolch i'w gwirfoddolwyr ac i amlygu eu cyfraniad i grwpiau lleol a'r gymuned ehangach.

Bydd yn gyfle hefyd i annog gwirfoddolwyr newydd ac i roi gwybodaeth i'r rhai sydd eisiau gwybod ble a sut y gallan nhw gymryd rhan.

Bydd digwyddiadau'n cael eu cynnal ledled y wlad, o Fife i Ddyfnaint, o Swydd Lincoln i Lundain, a byddan nhw'n digwydd rhwng nawr a mis Rhagfyr, er y bydd y rhan fwyaf ohonynt yn digwydd yn ystod wythnos gyntaf mis Mehefin.

I weld beth sy'n digwydd yn eich ardal chi ac i gymryd rhan, cliciwch fan hyn.

Ar y wefan gallwch hefyd ddiolch i wirfoddolwr y gwyddoch ei fod yn haeddu rhyw gydnabyddiaeth am y gwaith y mae wedi'i wneud.

Cychwynnodd Wythnos Gwirfoddolwyr ym 1984. Ar y dechrau roedd yn cael ei drefnu ar lefel leol ond er mwyn codi mwy o ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwirfoddolwyr daeth y Ganolfan Genedlaethol dros Wirfoddoli i arwain ar hyrwyddo'r Wythnos.

Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn fenter o'r asiantaethau datblygu gwirfoddolwyr sy'n gweithio ar draws y DU: Volunteering England, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Volunteer Now a Volunteer Development Scotland.

Mae'n derbyn cefnogaeth amryw o elusennau a mudiadau megis Sefydliad Prydeinig y Galon, y Samariaid a Chymorth i Ddioddefwyr.

LAST_UPDATED2
 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.