Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Gall golwg bwyd annog bwyta'n iach
Gall golwg bwyd annog bwyta'n iach PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
FRIDAY, 28 Mai 2010 09:39

Gwneud i fwyd iach edrych yn ddeniadol yw'r allwedd i gael plant i fwyta mwy ohono yn ôl awgrymiadau astudiaeth.

 

Yn yr ymchwil gafodd ei gynnal gan y cylchgrawn Appetite, rhoddwyd afalau, mefus a grawnwin heb hadau i blant rhwng pedair a saith oed a hynny mewn amryw o wahanol ffyrdd.

Wrth gynnig yr un math a'r un faint o ffrwythau i blant, canfuwyd eu bod yn bwyta llawer mwy ohono os oedd yn cael ei gyflwyno mewn ffordd ddeniadol a llawn hwyl.

Bu'r ymchwilwyr yn astudio bron 100 o ddisgyblion yn yr Iseldiroedd a Gwlad Belg, a dywedant y dylai rhieni ac ysgolion ddilyn yr esiampl hon.

Roedd y plant yn dewis y ffrwythau oedd wedi cael eu gwneud yn siapiau diddorol fel draenogod yn hytrach na sgwariau o ffrwythau ar bowlen wen. Roedd hyn er gwaetha'r ffaith eu bod yn sylweddoli y byddai'r ddau fath yn blasu'r un peth.

Awgrymodd yr ymchwilwyr hefyd y gallai archfarchnadoedd ddefnyddio technegau fel hyn er mwyn hyrwyddo bwydydd iach i blant a rhieni.

Gallai pecynnu deniadol ac "o bosib ychwanegu tegan bach, fel y tegan sy'n dod gyda Phryd Hapus yn y pecyn wneud byrbryd fel hyn yn fwy deniadol fyth," meddai'r ymchwilwyr wrth y cylchgrawn.

Ond rhybuddiodd Esther Jansen a'i chydweithwyr y gallai cyflwyno ffrwythau mewn dull "hwyliog" fel hyn golli ei apêl i blant yn fuan pe byddent yn cael eu defnyddio'n rhy aml.

"Mae'n debyg ei bod hi'n angenrheidiol i rieni a chynhyrchwyr bwyd barhau'n arloesol," medden nhw.

Dywedodd Dr Laura Wyness o Sefydliad Maethiad Prydain, "Mae'n beth doeth i geisio gwneud bwyd mor archwaethus â phosibl.

"Mae'n debyg fod golwg bwyd yn cael dipyn o ddylanwad, yn enwedig i blant sy'n dechrau dod i arfer â gwahanol fathau o fwyd."

Dywedodd fod rhai plant yn anodd eu plesio o ran bwyd ac y gallai hyn fod yn heriol i rieni. "Techneg arall yw ceisio cuddio llysiau a ffrwythau mewn bwydydd eraill fel sawsiau," meddai.

LAST_UPDATED2
 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.