Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Prosiectau chwarae yng Nghymru'n elwa o gyllid y loteri
Prosiectau chwarae yng Nghymru'n elwa o gyllid y loteri PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
FRIDAY, 28 Mai 2010 09:45

Cyhoeddodd y Gronfa Loteri Fawr y bydd wyth prosiect chwarae yng Nghymru'n derbyn hwb ariannol o £7.5m i annog mwy o blant i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored.

 

Bydd y cymhorthdal yn rhyddhad mawr i gydlynwyr chwarae yng Nghymru, yn dilyn cyfaddefiad y Gronfa Loteri'r mis diwethaf ei fod yn mynd i ddod â'i gyllid i Play England i ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Bydd yr arian yn cael ei wario ar y prosiect Chwarae Plant, rhan o raglen £20m Rhaglen Teuluoedd Iach y Gronfa Loteri Fawr, sy'n gobeithio mynd i'r afael â gordewdra drwy greu cyfleusterau chwarae i blant ledled Cymru.

Meddai is-gadeirydd y Pwyllgor Teuluoedd Iach, Barbara Wilding: "Bydd y prosiectau diweddaraf sy'n elwa o'r cyllido yn cwrdd ag amcanion Chwarae Plant drwy hyrwyddo ffyrdd o fyw iach a bywiog ymhlith plant a theuluoedd.

"Drwy gyfrwng Chwarae Plant rydym yn gweithredu'n gadarnhaol i warchod iechyd cenedlaethau'r dyfodol."

Mae Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro wedi derbyn £999,328, fydd yn darparu cyfleusterau chwarae symudol ar gyfer 1,000 o blant 12 oed ac iau.

Meddai cydlynydd datblygu rhanbarthol Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr, Tim Moss: "Bydd y prosiect chwarae hwn yn galluogi plant a phobl ifanc o'r ardal i brofi cyfleoedd yn eu cymunedau eu hunain ac i fynegi eu hunain."

Bydd Cynghrair Gwirfoddol Torfaen hefyd yn derbyn cyllid a bydd yn ei ddefnyddio i ddatblygu darpariaeth chwarae ar gyfer plant rhwng 8 a 12 oed yn Nhorfaen, Casnewydd a Sir Fynwy.

Meddai rheolwr gweithrediadau Cynghrair Gwirfoddol Torfaen, John Taylor: "Rydym yn hapus ac yn teimlo balchder ein bod yn derbyn cymhorthdal ac edrychwn ymlaen at wella darpariaeth chwarae yn Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen. Bydd yr arian hwn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'n prosiect ni."

 

LAST_UPDATED2
 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.