| Wythnos Gordewdra Plant |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| MONDAY, 28 JUNE 2010 10:32 |
|
Bydd Wythnos Genedlaethol Gordewdra Plant gyntaf y DU yn digwydd y mis nesaf i annog y llywodraeth glymbleidiol i wneud rhagor i fynd i'r afael â lefelau gordewdra mewn plant. Bydd yr wythnos hon o ymgyrchu a lobïo'n cychwyn ar 5 Gorffennaf ac fe'i trefnwyd gan y Fforwm Gordewdra Cenedlaethol (NOF) a Mend, sy'n darparu rhaglenni ffordd o fyw iach ar ôl ysgol ar gyfer plant. Bydd yn annog y llywodraeth i osod cynllun gweithredu clir a thargedau newydd ynghylch gordewdra plant. Bydd Mend hefyd yn cynnal digwyddiadau gweithgaredd corfforol yn y 350 ardal lle mae'n rhedeg rhaglenni ar ôl ysgol. Meddai Tam Fry, sy'n aelod o fwrdd NOF: "Rhaid i'r wythnos weithio fel sbardun i'r llywodraeth glymbleidiol newydd weithredu ar fyrder i fynd i'r afael â'r argyfwng gordewdra plant a gwrth-droi tueddiadau presennol sy'n hynod niweidiol i iechyd plant ein gwlad." |
No current events.