Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Cyngor y Ddinas i wahardd y gair ‘gordewdra’ o ymgyrchoedd iechyd
Cyngor y Ddinas i wahardd y gair ‘gordewdra’ o ymgyrchoedd iechyd PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
MONDAY, 28 JUNE 2010 10:39

Mae Cyngor Dinas Lerpwl yn ystyried gwahardd y gair 'gordewdra' rhag ymddangos mewn ymgyrchoedd iechyd yn y dyfodol rhag ofn i hynny achosi tramgwydd i blant sy'n rhy drwm.

Maen nhw'n credu y gall y gair arwain at bobl ifanc yn cael eu targedu ac maen nhw am ddisodli'r gair gyda'r geiriau "pwysau afiach".

Os bydd y syniad yn cael ei weithredu, byddai'r geiriau "gordew" a "gordewdra" yn cael eu gollwng o bob cynllun a strategaeth sydd wedi'i anelu at wella diet ac iechyd plant. Ond mae'r cynlluniau wedi cael eu gwrthwynebu gan ymgyrchwyr yn erbyn gordewdra sy'n poeni y gallai'r term newydd arwain at fychanu'r mater.

Meddai Tam Fry, cadeirydd yr elusen atal gordewdra, Child Growth Foundation: "Os ydych chi'n ordew, rydych chi'n ordew. Mae'r gwarthnod yn perthyn i'r gair ond yn anffodus, weithiau mae'n rhaid dysgu gwirioneddau bywyd i blant ysgol. Os oes gennych chi broblem, yn enwedig problem mor ddifrifol â hyn, mae angen mynd i'r afael â hi."

Mae'r cyngor yn ystyried y cynllun yn ffurfiol ar ôl i 90 aelod o Senedd Ysgolion Lerpwl (LSP) ei gyflwyno yn dilyn cais i nodi ffyrdd i wella bywydau pobl ifanc yn yr ardal.

Meddai Jeff Dunn, cydlynydd LSP: "Y syniad yw bod arwyddocâd negyddol i'r gair 'gordewdra'. Roedden nhw'n teimlo fod 'pwysau afiach' yn ffordd fwy cadarnhaol a gwell i'w hyrwyddo. Byddai'r gair 'gordewdra' yn diflasu pobl, yn enwedig pobl ifanc."

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Cyngor Dinas Lerpwl eu bod yn rhoi ystyriaeth i'r argymhellion. Mae disgwyl i'r cyngor gadarnhau'r cynllun o fewn yr ychydig fisoedd nesaf. Ymysg cynlluniau eraill mae penodi ffrindiau ysgol a sêr chwaraeon o'r ddinas yn "arwyr bwyd" i hyrwyddo bwyta'n iach mewn ysgolion.

Ydych chi'n cytuno â hyn? Ydy'r gair 'gordewdra''n sarhaus neu ai cywirdeb gwleidyddol wedi mynd yn wallgo' yw hyn?

LAST_UPDATED2
 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.