| Nid y dewisiadau amlwg o ffrwythau a llysiau yw’r iachaf o anghenraid, medd ymchwilwyr |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| MONDAY, 28 JUNE 2010 10:53 |
|
Yn ôl arbenigwyr yn yr UD, gallai gwneud pethau syml fel bwyta tatws melys yn lle moron a phapaia yn hytrach nag orenau wneud gwahaniaeth. Mewn cyfarfod yn y DU, dywedodd yr arbenigwyr fod bwydydd fel mafon, berw'r dŵr a cêl yn cynnwys mwy o ffytofaetholion all helpu i atal clefydau. Dywedodd maethegwyr yn y DU fod diet cytbwys yn hanfodol ar gyfer iechyd da, a rhybuddiodd Sefydliad Maetheg Prydain nad oedd hi'n syniad da i ddibynnu ar fwyta rhai mathau dethol o fwydydd i hybu iechyd ac nad oedd y fath beth ag "uwchfwyd" (superfood). Mae arbenigwyr yn argymell bwyta pum dogn o ffrwythau a llysiau mewn diet iach. Mae'n hysbys fod bwydydd planhigion yn cynnwys cemegolion "ffytofaethol" sy'n gallu amddiffyn y galon a'r rhydwelïau ac atal canserau. Ond efallai nad y mathau mwyaf poblogaidd yw'r rhai gorau, yn ôl ymchwilwyr yr UD. Buon nhw'n dadansoddi data o arolygon iechyd yn yr UD ar arferion diet pobl er mwyn edrych ar y ffynonellau mwyaf cyffredin o ffytofaetholion gan ganfod mai un math o fwyd oedd yn gyfrifol am ddwy ran o dair neu ragor o faint yr oedd unigolyn yn ei fwyta ar gyfer 10 o'r 14 ffytofaetholyn a astudiwyd, waeth faint o ffrwythau a llysiau yr oedden nhw'n eu bwyta i gyd. Moron oedd y ffynhonnell fwyaf cyffredin ar gyfer beta-caroten, orenau a sudd oren yw'r ffynhonnell fwyaf cyffredin ar gyfer beta-cryptosanthin, sbigoglys yw'r ffynhonnell fwyaf cyffredin ar gyfer lwtein/ seasanthin, mefus y ffynhonnell fwyaf cyffredin ar gyfer asid elagig a mwstard sy'n darparu'r rhan fwyaf o isothiosyanadau. Fodd bynnag, roedd ffynhonnell bwyd mwy cyfoethog ar gael ar gyfer pob un o'r ffytofaetholion hyn. Byddai newid o fwyta moron i datws melys bron yn dyblu lefel y beta-caroten, medd yr ymchwilwyr. Yn yr un modd, mae gan papaia 15 gwaith mwy o feta-cryptosanthin nag orenau, ac mae gan gêl dair gwaith gymaint o lwtein/ seasanthin na sbigoglys. Mae gan fafon dair gwaith gymaint o asid elagig na mefus ac mae un cwpanaid o ferw'r dŵr yn cynnwys cymaint o isothiosynad â phedwar llond llwy de o fwstard. Mae arweinydd yr astudiaeth, Keith Randolph, yn strategydd technoleg i'r cwmni ychwanegion Nutrilite. Meddai: "Mae'r data hyn yn amlygu pwysigrwydd nid yn unig y swm, ond hefyd effaith sylweddol ansawdd ac amrywiaeth y ffrwythau a'r llysiau rydych yn eu bwyta'n gallu ei gael ar eich iechyd." Fodd bynnag, dywedodd Dr Emma Williams o Sefydliad Maetheg Prydain: "Maen nhw'n iawn yn yr ystyr fod rhai bwydydd yn ffynonellau gwell o ffytofaetholion. Ond yn y pen draw, er mwyn bod yn iach mae'n rhaid i chi wneud yn siŵr fod eich diet yn amrywiol ac yn gytbwys. Does yna ddim un math unigol o fwyd all roi'r cyfan sydd ei angen arnoch i chi."
|
No current events.