| Erthygl nodwedd – Ffactor 'Ff |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| WEDNESDAY, 28 JULY 2010 15:40 |
|
Mae prosiect Ffactor Ff wedi ymgynnull unwaith eto am eu gŵyl gymunedol olaf yn rownd un, y tro hwn yn Ninbych oedd yn ddigon gwlyb a gwyntog. Mae'r prosiect eisoes wedi rhedeg cyfres o wyliau llwyddiannus yn ystod rownd un yn y Rhyl, Llanelwy, Corwen a Rhuthun.
Roedd nifer o chwaraeon ar gael yn cynnwys pêl-droed, rygbi a golff gyda gweithgareddau eraill megis rhedeg rasys a chastell neidio. Er mai digon gwael oedd y tywydd, daeth tyrfa digon da i'r ŵyl ac roedd pawb i weld yn cael amser da iawn. Meddai Ian Hepburn, o Dîm Cefnogi Ffordd o Fyw: "Mae'n biti mawr fod y tywydd yn amlwg wedi effeithio arnom ni heddiw, ond mae'r rhai sydd wedi dod i weld yn mwynhau ac mae digon i'w wneud yma. Roedd pawb oedd yn trefnu gweithgareddau a chwaraeon yn frwdfrydig iawn ac yn hapus i dreulio amser yn siarad â ni a hyd yn oed yn rhoi arddangosfa i ni o'r hyn roedden nhw'n ei redeg." Mae Tony Dutton, yn gweithio ar ran Cyngor Sir Ddinbych, yn rhedeg dosbarthiadau pêl-droed i blant yn ogystal â gweithio gyda Chlwb Pêl-droed Tref Prestatyn a Chlwb Pêl-droed Merched Tranmere, ac roedd wedi cael argraff dda o'r hyn y mae Ffactor-Ff yn ceisio'i wneud. Meddai: "Dwi'n credu fod beth mae'r prosiect yn ceisio'i wneud yn wych. Mae cymaint o blant heddiw'n eistedd o flaen y teledu'n chwarae gemau cyfrifiadurol, felly mae trïo eu cael allan yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau yn bwysig dros ben. Does fawr o ots beth yn union mae'r plant yn ei wneud, cyn belled â'u bod yn actif. Mae'r rhan bwyta'n iach o'r prosiect hefyd yn wych, ac mae'n bwysig iawn hefyd. Dwi'n gobeithio y bydd rhagor o'r pethau yma'n digwydd yn y dyfodol."
Richard Griffin, arweinydd y prosiect, yw'r dyn sydd wedi trefnu a rhedeg y gwyliau Ffactor-Ff ac mae'n hapus iawn gyda'r derbyniad a fu iddynt. Meddai: "Yn amlwg, mae'r tywydd wedi effeithio ar bethau ychydig heddiw, ond ar y cyfan mae'r prosiect yn mynd yn arbennig o dda. Rydym wedi cael cyfartaledd o 80 o bobl yn mynychu'r holl wyliau ac mae hynny'n nifer go dda ar gyfer llefydd cymharol fach. Rydym wedi bod yn dadansoddi beth sy'n gweithio a beth nad yw'n gweithio mewn gwyliau felly gobeithio y gallwn, yn y dyfodol, ddysgu o'r hyn rydym wedi'i wneud, a gwneud rhai gwelliannau. Er enghraifft, mae'r ŵyl yn cael ei chynnal mewn ysgol leol sydd efallai ychydig yn gaeedig i'r cyhoedd. Yn y dyfodol efallai y byddwn yn ceisio'i chynnal mewn man mwy cyhoeddus megis cae chwarae. Mae 40 y cant o blant Sir Ddinbych dros eu pwysau erbyn eu bod yn ddeg oed, ac mae gwir angen i ni wneud rhywbeth am hynny. Rydym yn hapus gyda rownd un, ond mae angen i ni wneud rhai newidiadau ar gyfer rownd dau. Mae angen i ni dargedu unigolion a gweld beth allwn ni ei wneud i'w helpu."
|
| LAST_UPDATED2 |
No current events.