|
Mae Rhaglen Hwyl, Bwyd a Ffitrwydd (FFF) Merthyr Tudful wedi bod yn cynnig pob math o weithgareddau i blant yn yr ardal er mwyn ennyn eu diddordeb mewn byw yn iach, ac mae'n ymddangos ei fod yn gweithio.
Mae tîm darparu'r prosiect wedi bod yn cynnig sesiynau coginio hwyl ac iach gan goginio bwydydd blasus fel pizzas cartref, cawl a smŵddis hyfryd a choginio a blasu gwahanol fwydydd o wledydd y byd yn cynnwys cyri gwyrdd o Thailand a chrempogau llysiau o China. Roedd hyn i gyd yn hyrwyddo'r 5 y dydd y dylai pawb fod yn ceisio'u bwyta.
Ochr yn ochr â'r rhaglenni bwyta'n iach, bu'r prosiect hefyd yn cynnal nifer o weithgareddau wedi'u cynllunio i gael plant i wneud eu 60 munud o weithgaredd, bum gwaith yr wythnos. Roedd hyn yn cynnwys pethau mwy anarferol megis pêl-droed Americanaidd, pêl-fasged, yoga a tai chi. Bu'r rhain yn gyfrwng hefyd i helpu'r plant i ddysgu ei bod hi'n bwysig gofalu am eu cyhyrau, eu calon a'u hysgyfaint.
Mae'r gweithgareddau Tyfwch e'n Wyrdd hefyd wedi mynd yn dda iawn, yn dysgu sgiliau newydd i'r plant a dysgu trwy wneud yn hytrach na bod mewn dosbarth. Maen nhw wedi bod yn palu ac yn plannu, yn tyfu mwstard, berwr, tomatos, mefus a thatws, pob un ohonyn nhw'n darparu maetholion a fitaminau pwysig.
Mae dros 240 o blant lleol o 4 ysgol gynradd leol wedi cael hwyl fawr yn elwa o'r rhaglen FFF gyda gwyliau rheolaidd yn cael eu cynnal i ddathlu cyflawniadau'r plant gyda'u teuluoedd, eu ffrindiau a'u cymdogion gydag arddangosiadau coginio, sesiynau blasu bwyd, heriau tyfwch e'n wyrdd a gweithgareddau cadw'n heini yn lledaenu neges Hwyl, Bwyd a Ffitrwydd.
Ac mae'r neges yn bendant yn cyrraedd y nod.
"Y sesiynau coginio oedd orau gen i", meddai un ferch 11 oed o Goed y Dderwen. "Does dim rhaid iddo fod yn fwyd cyflym i flasu'n neis - gall fod yn neis ac yn iach."
Roedd bachgen 11 oed o ysgol Pantyscallog hefyd yn uchel ei ganmoliaeth am y rhaglen Tyfwch e'n Wyrdd. Meddai: "Roedd hi'n ddiddorol dysgu o ble mae gwahanol lysiau'n dod achos doeddwn i ddim yn gwybod hynny o'r blaen. Roeddwn i hefyd yn teimlo'n falch iawn yn tyfu betys a gallu mynd â nhw adref i'w coginio."
Roedd y gweithgareddau corfforol hefyd yn hynod o boblogaidd. Meddai merch arall 11 oed o Goed y Dderwen: "Rwy'n hoffi chwaraeon, maen nhw'n dda i'ch cyhyrau a'ch calon. A thrwy eu gwneud hyn yn hwyl, dydych chi ddim yn sylweddoli eich bod chi'n gweithio eich corff. Mae'n helpu i wneud i'ch corff aros yn heini, yn rhoi mwy o egni i chi ac mae'n gwneud i mi deimlo'n hapus mod i wedi ymarfer."
Mae gennym ni lu o luniau o'r prosiect i chi eu gweld a chofiwch y gallwch chi hefyd gael sylw i'ch prosiect fan hyn, felly anfonwch nodyn atom i ddweud wrthym beth rydych chi wedi bod yn ei wneud.
|