|
Yn ystod ei hail flwyddyn, mae rhaglen Fit 4 Fun Sir Gaerfyrddin wedi gwneud argraff eithriadol ar draws y sir yn yr ysgolion ac mewn cymunedau. Ar ddiwedd Blwyddyn 1, penderfynwyd newid y fformat ar gyfer cyflwyno gweithgareddau Fit 4 Fun, ac maen nhw wedi bod yn elwa ar hyn byth ers hynny.
Yn hytrach na'r cylch gorchwyl gwreiddiol o gynnal cymysgedd o ddigwyddiadau unigol bach a mawr, ym Mlwyddyn 2 penderfynwyd cynnal digwyddiadau fyddai'n cael eu cynnal dros nifer o sesiynau. Fel hyn mae Fit 4 Fun wedi cael gwell llwyddiant yn cwrdd â'i nodau a'i amcanion i gynyddu ymwybyddiaeth a chyfranogiad a gwella agweddau tuag at faterion byw yn iach. O ganlyniad i hyn, ers dechrau 2010 mae Fit 4 Fun wedi cynnal dros 200 o weithgareddau drwy ddefnyddio darparwyr gweithgareddau proffesiynol. Drwy gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau byw yn iach, roedd y prosiect wedi gallu cyrraedd cannoedd o blant ysgol a miloedd o bobl mewn gwahanol gymunedau. Mae'r digwyddiadau wedi cynnwys coginio iach, sgiliau syrcas, sglefrfyrddio, sgiliau chwaraeon, ymlacio, 'tatty bumpkin' ac amrywiaeth o sesiynau dawns.
Ar gyfartaledd mae un digwyddiad yn para 6 sesiwn, ond mae Fit 4 Fun hefyd wedi sefydlu clybiau coginio cymunedol sy'n cael eu cynnal bob wythnos dros gwrs y prosiect a thu hwnt. Nod y clybiau hyn yw cynnwys y rhieni cymaint â phosibl, drwy gynnig hyfforddiant iddyn nhw i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol fydd yn eu galluogi i redeg y clybiau'n annibynnol yn y dyfodol. Mae'r clybiau wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda phlant yn datblygu amrywiaeth o sgiliau coginio yn ogystal â newid eu hagwedd i fod yn gadarnhaol tuag at fwyta'n iach.
Yn ogystal â gweithgareddau mewn sesiynau a chlybiau, mae Fit 4 Fun hefyd wedi cynnal digwyddiadau mawr fel gwyliau yn ystod yr haf, mewn partneriaeth gyda grwpiau lleol a chyrff cymunedau'n gyntaf. Roedd y rhain yn cynnwys mabolgampau, dyddiau byw yn iach a charnifalau, pob un ohonynt yn rhoi'r cyfle i Fit 4 Fun arddangos ei weithgareddau llawn hwyl.
Mae Fit 4 Fun hefyd wedi datblygu ymgyrch hyrwyddo cynhwysfawr er mwyn helpu i gwrdd â nodau ac amcanion y prosiect. Ar flaen yr ymgyrch mae masgot unigryw'r prosiect 'Fabian y Coctel Ffrwythau', sy'n dod i ddigwyddiadau Fit 4 Fun ac yn rhoi pecynnau addysgu ac adnoddau hwyl i blant a'u bocsys bwyd eu hunain. Uchafbwynt yr ymgyrch eleni oedd datblygu gemau rhyngweithiol ar-lein Fit 4 Fun, mewn partneriaeth gyda'r cwmni cyfryngau Tinopolis, lle mae plant yn rheoli Fabian mewn heriau llawn hwyl yn erbyn ei elyn pennaf, Dr Slob! Bydd y gemau ar gael i'w chwarae cyn diwedd 2010 ar wefan Cymdeithas Ieuenctid a Phlant Sir Gaerfyrddin, www.cycaonline.org <http://www.cycaonline.org>.
Am ragor o wybodaeth am y prosiect Fit 4 Fun, cysylltwch â Matthew Newbold neu John Collard ar 01554 757599 neu e-bostiwch
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
|