| Ffordd o Fyw - Storïau am y Newid Mwyaf Arwyddocaol – Prosiect F3 |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| FRIDAY, 26 NOVEMBER 2010 12:02 |
|
Mae'n bwysig ein bod yn cael data ansoddol gan y prosiectau ynghylch sut y mae Ffordd o Fyw'n gwneud gwahaniaeth; fel arall byddai'r rhan fwyaf o'r hyn sy'n cael ei wneud yn eitha' dibwrpas. Tystiolaeth yw holl bwynt Ffordd o Fyw, tystiolaeth fod teuluoedd yn cael eu haddysgu ar fyw yn iach ac wedyn yn newid eu bywydau er gwell. Rydym wedi bod yn siarad gyda chwpwl o deuluoedd ar y prosiect F3 yng Nghaerffili a dyma beth ddwedson nhw...
Mae Abigail Richards-Cooper yn naw oed ac roedd hi'n un o'r plant a fynychodd y deg sesiwn F3, gyda'i theulu, mewn ymgais i wella ansawdd ei byw yn iach. Roedd ei thad, Michael, yn cyfaddef fod Abigail dros bwysau, ac felly penderfynodd y teulu fod angen gwneud rhywbeth er mwyn ei helpu i golli pwysau. Fe aethon nhw i weld y meddyg teulu i drafod beth oedd opsiynau Abigail a'r meddyg roddodd nhw mewn cysylltiad â'r prosiect M3. "Barn y meddyg oedd mai'r rheswm dros bwysau Abigail oedd bod ei dognau bwyd yn rhy fawr ac nad oedd hi'n cael digon o ymarfer corff, felly fe gyfeiriodd ni at y prosiect," meddai Michael, tad Abigail. "Roedden ni'n meddwl ei fod yn syniad da felly fe aethon ni yno." Cynhaliwyd deg sesiwn F3, pob un wedi'i ddylunio i addysgu plant a'u teuluoedd am fyw yn iach ond hefyd am gael hwyl a chwrdd â phobl o'r un anian pob un yn ymdrechu i gyrraedd yr un amcan. Esboniodd Michael sut roedd y sesiynau'n cael eu trefnu. "Bydden ni'n treulio'r hanner awr cyntaf yn yr awyr agored yn gwneud gemau ac ymarfer corff. Roedd hynny'n wych i gael pawb i gymryd rhan ac yn cael hwyl. Wedyn bydden ni'n mynd i mewn ac yn dysgu rhagor am fwyta'n iach ac ymarfer corff, oedd hefyd yn hwyl ond roedd yn agoriad llygad hefyd; fe ddysgon ni gryn dipyn yn y sesiynau." Felly beth wnaethon nhw ddysgu? Wel mae Michael yn credu fod y teulu cyfan wedi dysgu llawer yn y sesiynau a'u bod wedi cael effaith fawr ar eu bywydau, yn enwedig ar Abigail. "Mae Abigail wedi cael cymaint allan o'r sesiynau, mae pob un ohonom wedi gwneud. Mae'r ddau ohonom nawr yn mynd am dro am awr bob nos ond cyn hyn doedd hi ddim eisiau cerdded i unman. Aeth y prosiect â hi allan am dro ac rwy'n meddwl fod hyn wedi ei hysbrydoli.
"Fe ddysgon ni awgrymiadau bach am gadw'n heini hefyd, fel parcio mewn maes parcio ychydig yn bellach na lle rydych chi'n mynd er mwyn gorfod cerdded ychydig mwy. Fe ddysgon ni mai dim ond newidiadau bach sy'n rhaid eu gwneud weithiau er mwyn gwneud gwahaniaeth mawr." Un o brif fanteision y prosiect yw ei fod yn cynnwys y teulu cyfan yn hytrach na dim ond y plant. Roedd y dull hwn wedi cael argraff ar Michael a chyfaddefodd nad oedd ots ganddo wneud ffŵl o'i hun ar adegau. "Roedden ni i gyd yn neidio o gwmpas a photsian ac roedd e'n hwyl fawr. Roedd rhai o'r teuluoedd ychydig yn swil, ond roedd pob un ohonom wedi bwrw iddi. Mae'n beth da fod pawb yn cymryd rhan. Mae angen dysgu'r rhieni yn ogystal â'r plant gan mai nhw sy'n coginio'r prydau bwyd ac yn rhoi bwyd yn y pecynnau cinio. Mae gen i syniad eitha' da o be sy'n dda a be sy'n ddrwg i chi, ond mae rhai pobl heb unrhyw glem felly mae'n beth da fod prosiectau fel hyn ar gael i'w dysgu nhw." Felly aeth Michael a'i deulu i gymryd rhan yn y prosiect er mwyn helpu Abigail, ond fe ddysgodd pawb yn ei sgil, a phan ofynnwyd iddyn nhw a fydden nhw'n cymryd rhan eto, ateb syml Michael oedd - "yn bendant". Stori NMA 2 Mae'r ail Stori am y Newid Mwyaf Arwyddocaol yn edrych ar Cerys Watkins, sy'n un ar ddeg oed, a aeth i weld y meddyg ar ôl bod yn teimlo'n sâl. Fe welodd hi hysbyseb am y prosiect tra'i bod hi yn y feddygfa a phenderfynodd ei bod am roi tro arno. Fel Abigail yn y stori gyntaf, bu Cerys yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau ac yna fe ddysgodd hi lwyth o bethau newydd am fyw'n iach. Dywedodd Dawn, mam Cerys, ei fod wedi cael effaith fawr iawn ar ei merch. Meddai: "Mae hi fel person newydd erbyn hyn. Mae hi wedi newid ei harferion bwyta i gyd ac rydw i wedi stopio prynu rhai bwydydd hyd yn oed achos wneith hi ddim eu bwyta nhw." Bu'r teulu cyfan yn cymryd rhan yn y sesiynau ac mae pawb wedi dysgu llawer yn ei sgil, gan ddangos nad dim ond ar y plant y mae'r prosiect yn ffocysu ond ar yr uned deuluol cyfan. "Rydym wedi dysgu cymaint yn y sesiynau. Rydw i ar ddiet ond fe ddysgon ni nad oes rhaid gwneud hynny, yn enwedig i blant. Y cwbl y mae'n rhaid i chi ei wneud yw gwneud newidiadau bach i'ch ffordd o fyw a gallan nhw wneud gwahaniaeth mawr. "Mae Cerys wedi dysgu llawer iawn. Mae hi wedi dysgu llawer mwy am ba fwydydd sy'n iach ac yn afiach ac erbyn hyn mae hi'n edrych ar gefn pecynnau bwyd i weld beth sydd yn y bwyd. Mae hi hefyd yn gwneud llawer mwy o weithgareddau nag yr oedd hi'n arfer gwneud ac mae hi wedi dysgu gwneud peth coginio. Mae e wedi dysgu rhai sgiliau bywyd pwysig." Ond nid dim ond ochr addysgiadol y prosiect sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar Cerys. Dywedodd Dawn ei fod hefyd wedi cael effaith gymdeithasol gadarnhaol iawn. "Mae Cerys wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd drwy gyfrwng y sesiynau; rydyn ni i gyd wedi gwneud ffrindiau newydd wir. Roedd hi wir yn mwynhau mynd a gweld ei ffrindiau ac roedd pawb yn dysgu gyda'i gilydd. Mae hi'n ei golli erbyn hyn a dwi'n credu y byddai hi'n neidio at y cyfle o wneud rhywbeth tebyg eto. "Roedd yn dda iawn hefyd i'r plant gael cwrdd â gwahanol fathau o bobl o wahanol grefyddau a ffyrdd o fyw nag y byddent wedi eu cwrdd fel arfer." Roedd Dawn yn llawn canmoliaeth i'r prosiect ond roedd hi'n teimlo mai dim ond man cychwyn oedd hwn os yw arferion afiach plant am newid, ac y dylai bod llawer mwy o brosiectau fel hyn ar gael. "Yn bendant dylai bod mwy o bethau fel hyn ar gael i helpu plant. Mae gordewdra'n fater mor bwysig heddiw ac os ydym am ei rwystro neu am helpu pethau mae angen i rywun drefnu pethau fel hyn. Mae angen i blant ddysgu am fyw yn iach ond dydyn nhw ddim bob amser yn cael eu dysgu ddigon. "Efallai y bydd rhai pobl yn gweld yr hysbysebion am lefydd fel hyn ac yn meddwl efallai bod rhyw gymhelliad dirgel y tu cefn iddo neu na fydd yr hyn y mae'n honni ei fod, ond roedd hwn yn 100 y cant diffuant a byddwn yn ei argymell i unrhyw un." |
| LAST_UPDATED2 |
No current events.