| Erthygl nodwedd Ffordd o Fyw – Iachus Gyda'n Gilydd |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| FRIDAY, 10 DECEMBER 2010 16:30 |
|
Prosiect yng Ngheredigion yw Iachus Gyda'n Gilydd ac mae'n gweithio yn ardaloedd Penparcau, Llangybi, Llandysul, Ceinewydd a Llanarth. Mae'n brosiect pellgyrhaeddol sy'n cwmpasu amrywiaeth eang o is-brosiectau yn yr ardal, gan rannu ei ddoethineb ar fyw yn iach a gan annog plant a theuluoedd i fwyta'n iach a gwneud ymarfer corff. Yn ei hanfod, dyma yw pwrpas Ffordd o Fyw.
Ond cyn i ni sôn am hynny, mae'n bwysig cyflwyno rhai o'r bobl y byddwch yn darllen amdanyn nhw yn yr erthygl, gan y bydd eu henwau'n ymddangos cryn dipyn ynddi. Y rhain yw Oliver Morris, Tom Bean, ac Iona Davies neu "Oli, Tom ac Iona" fel y cyfeirir atyn nhw'n aml - Gweithwyr Datblygu'r Prosiect. Nhw sy'n cyflwyno'r prosiect ac mae'n deg dweud eu bod yn boblogaidd iawn ymhlith y plant, y rhieni a'r athrawon. Ond ymlaen â ni... Ysgol Gynradd Llwyn yr Eos oedd y lle cyntaf i ni ymweld ag ef a buon ni'n siarad gyda rhai o'r athrawon am y math o bethau y mae'r prosiect wedi bod yn eu gwneud gyda'r plant. Mae Iachus Gyda'n Gilydd wedi bod yn mynd i'r ysgol a threulio amser gyda'r plant, yn eu cael nhw i goginio a dysgu am y bwyd y maen nhw'n ei wneud a'i fwyta. Mae pennaeth yr ysgol, Brian Evans, wedi bod wrth ei fodd gyda'r modd y mae'r prosiect wedi ffitio i mewn i gwricwlwm yr ysgol a chymaint y mae'r athrawon a'r plant yn ei fwynhau. Meddai: "Rydyn ni wedi cymryd rhan mewn prosiectau ysgolion iach a chynaliadwyedd byd-eang yn y gorffennol felly mae hyn yn ffitio'n dda gyda'r math o waith rydyn ni'n ceisio'i wneud. Mae Oliver a'i gydweithwyr wedi bod yn wych; mae ganddyn nhw berthynas wych gyda'r plant a'r staff i gyd, sy'n bwysig iawn." Mae'r rhan hon o Aberystwyth yn eitha' difreintiedig ac mae ystadegau'r ysgol yn dangos fod 42% o'r plant yn cael cinio am ddim ac mae 45% ar y gofrestr anghenion arbennig. Gall hyn arwain at anawsterau yn yr ysgol a gall plant fel hyn weithiau elwa yn sgil dulliau addysgu amgen. Mae Iachus Gyda'n Gilydd wedi gweithio gyda'r ysgol i sicrhau fod yr holl anghenion addysgol yn cael eu cwrdd a thrwy hyn wedi datblygu arddull addysgu gynhwysol iawn. "Mae cwricwlwm yr ysgol yn holistig iawn yn barod", esboniodd Brian. "Mae'n alwedigaethol iawn ac roedden ni'n awyddus iawn i gadw'r elfen honno. Roedd ffordd y prosiect o weithio hefyd yn alwedigaethol iawn ac yn estyniad o'r hyn roedden ni eisoes yn ei wneud. Maen nhw'n gweithio'n dda gyda'r plant i gyd ac mae rhai o'r plant wedi dangos diddordeb gwirioneddol yn yr hyn y maen nhw'n ei wneud er iddi fod yn anodd ennyn eu diddordeb yn y rhan fwyaf o bethau cyn hyn."
Yn ystod ein hymweliad â'r ysgol roedd sesiwn goginio'n cael ei gynnal yn defnyddio'r ffwrn. Roedd y plant yn gwneud eu pizzas ac yna (gyda chymorth oedolyn wrth gwrs) yn eu llithro i mewn i'r ffwrn lle bydden nhw'n barod o fewn rhyw 2 funud. Roedd pawb yn anhygoel o frwdfrydig am ddefnyddio'r ffwrn ac roedd y plant wir yn cael gwefr o wneud a choginio rhywbeth o'r dechrau'n deg ac yna gallu ei fwyta. Ar ben hyn, mae'r ffwrn ar gael i'r gymuned gyfan ei defnyddio unrhyw bryd ac felly mae'r prosiect wedi creu rhywbeth sydd o fudd i bawb yn yr ardal, nid dim ond y rhai yn yr ysgol.
Meddai: "Mae wedi bod yn llwyddiant anhygoel; mae'r plant yn cyffroi cymaint pan fyddan nhw'n gwybod eu bod yn mynd i fod yn ei defnyddio. Pan fyddwch chi'n dysgu mewn ffordd ymarferol, mae'n gymaint gwell. Mae hyn wedi gwneud dysgu'n llawer mwy o hwyl ac maen nhw wedi dysgu cymaint o sgiliau eraill na fydden nhw wedi gwneud fel arfer." Roedd Pat hefyd yn hael ei chanmoliaeth o'r Gweithwyr Datblygu ac mae'n credu fod cael pobl fel hyn yn rhan o'r prosiect yn ychwanegu llawer at brofiad dysgu'r plant. "Mae'r plant wrth eu boddau gydag Oli, Tom ac Iona; maen nhw'n gweithio gyda nhw ac yn frwdfrydig dros ben, a dyna beth sydd ei angen gyda phlant. Mae'n golygu llawer i'r plant ac maen nhw'n cael cymaint o hwyl pan fydd y prosiect yn dod i mewn ac yn rhyngweithio gyda nhw; mae'n braf gweld hynny. Os yw'r bobl iawn yn cymryd rhan mae hynny'n llawer pwysicach na chael llawer o arian. Dydy plant ddim yn ymateb i faint o arian sy'n cael ei wario. Maen nhw'n ymateb i bobl yn cyfathrebu ac yn cael hwyl gyda nhw." Mae'r prosiect hefyd wedi cynnal digwyddiadau yn yr ysgol, yn cynnwys Parti yn y Parc oedd yn llwyddiant mawr ac a ddenodd pobl i mewn o'r gymuned gyfan. Aeth Pat yn ei blaen: "Roedd y Parti yn y Parc yn wych. Roedd e wedi cael ei wneud o'r blaen, ond wnaeth e ddim gweithio. Y tro hwn roedd yn llwyddiant enfawr. Roedd cymaint o bobl yn dod i lawr i weld beth oedd yn digwydd ac roedd pawb i'w gweld yn ei fwynhau; gobeithio y gallwn wneud hyn eto yn y dyfodol." Yn dilyn ein hymweliad â'r ysgol gynradd fe aethon ni i ymweld â grŵp rhieni ifanc y mae Iachus Gyda'n Gilydd hefyd yn gweithio gyda nhw, dafliad carreg yn unig o'r ysgol. Mae gan y rhan fwyaf o'r rhieni yn y grŵp blant rhwng chwe mis a phump oed ac maen nhw'n cwrdd ar foreau Iau i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel gwneud gemwaith ac i gwrdd â rhieni ifanc eraill. Aeth Iachus Gyda'n Gilydd at y grŵp gyda golwg ar gyflwyno bwyd iach i blant ifanc ac maen nhw'n awr yn rhedeg sesiynau coginio'n iach. Mae Lynwen James, sy'n rhedeg y grŵp, yn hapus gyda'r effaith y mae'r prosiect wedi ei gael ar y grŵp. Meddai: "Rydyn ni'n bendant wedi gweld cynnydd yn y rhieni ifanc ers cyflwyno'r sesiynau coginio. Mae rhai o'r teuluoedd rydyn ni'n gweithio gyda nhw un ac un wedi dweud eu bod yn ceisio coginio mwy gartref ac y byddan nhw'n dod yn ôl i'r sesiynau eraill yn y dyfodol." Mae gweithio gyda'r grŵp rhieni ifanc yn rhoi arf ychwanegol i'r prosiect gan ei fod yn gweithio gyda phlant o'u genedigaeth yn ogystal â phlant ysgol gynradd. Bydd hyn yn llesol i blant ac i deuluoedd gan y bydd, gobeithio, yn gallu addysgu o oedran cynnar a'u cyflwyno i arferion da ac iach drwy eu plentyndod. Taith i ysgol gynradd arall oedd nesaf ar ein hagenda, sef Ysgol Gynradd Llandysul. Wrth gyrraedd yno fe gawsom groeso gan grŵp o blant oedd yn gweithio'n galed yng ngardd newydd yr ysgol oedd wedi cael ei greu gyda chymorth Iachus Gyda'n Gilydd. Daeth yr ysgol i gysylltiad â'r prosiect drwy'r ganolfan dysgu oedolion ac roedden nhw eisiau datblygu gardd ysgol fel rhywbeth i ddod â'r gymuned at ei gilydd. Daeth Oli a Tom i gyfarfod â'r ysgol i drafod eu hanghenion ac i weld beth fyddai'r ffordd orau i fynd ati i ddatblygu'r ardd ac yna fe sefydlon nhw gystadleuaeth i blant gynnig cynlluniau potensial ar gyfer yr ardd. Ar ôl i'r cynlluniau gael eu gorffen, roedd y mater bach o greu'r ardd wedyn. Cafwyd cyfres o sesiynau cwys wedyn ond yn dilyn gwaith caled gan Oli, Tom a Iona (yr aelod diweddaraf o'r tîm datblygu) a'r plant a'u rhieni, roedd ganddyn nhw eu gardd eu hunain yn barod i dyfu ffrwythau a llysiau. Nia Lloyd-Efans yw'r eco-gydlynydd yn yr ysgol ac mae hi wrth ei bodd gyda'r modd y mae'r prosiect wedi helpu'r plant i gyflawni yn yr ysgol. Meddai: "Mae brwdfrydedd pawb wedi bod yn wych a dydyn nhw ddim yn gallu aros i fynd i'r ardd. Mae eu mwynhad o ddysgu a thyfu eu bwyd eu hunain wedi cynyddu'n fawr iawn. Mae gan y plant ymdeimlad o berchenogaeth bellach a balchder yn yr yn y maen nhw wedi'i wneud." Fodd bynnag, doedd eu gwaith ddim ar ben ar ôl gorffen yr ardd. Daliodd y plant i weithio'n galed yn cynhyrchu llysiau oedd wedyn yn cael eu defnyddio yn ffreutur yr ysgol yn y cinio ysgol. Ar ben hyn, cafodd peth o'r cynnyrch ei werthu i fusnesau lleol gyda'r arian yn dod yn ôl i'r ysgol. Dywedodd Nia fod hyn i gyd wedi rhoi rhai sgiliau bywyd pwysig i'r plant y gallan nhw eu defnyddio fel oedolion. "Rydyn ni eisiau i'r plant allu gadael yr ysgol a gwybod sut i gadw eu hunain yn iach. Mae'n bwysig fod plant yn gwybod beth sy'n digwydd gyda bwyd o'r amser y mae'n tyfu i ble mae'n mynd ar ôl cael ei gasglu a hyd yn oed ar ôl ei werthu. Mae eu galluogi i dyfu eu bwyd eu hunain ac yna ei fwyta neu ei werthu ymlaen yn brofiad dysgu gwych." Mae Iachus Gyda'n Gilydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr yn Ysgol Gynradd Llandysul ac un o'r pethau mwyaf nodedig yw lefel y cynhwysiad a chymaint y mae'r plant yn rhan o'r hyn y mae'r prosiect yn ei wneud. Mae'r plant yn yr ysgol yn cymryd rhan ym mhob cam o'r datblygu fwy neu lai, o gynllunio'r ardd i werthu'r cynnyrch ac mae hyn yn esiampl wych iddyn nhw. Ymlaen â ni wedyn ar wib i Ben Dinas yn Aberystwyth i ymweld â lloches awyr agored yr oedd y prosiect wedi helpu i'w adeiladu. Ar ôl taith gerdded fer dros y bryniau fe gyrhaeddon ni loches bren wedi ei hadeiladu'n wych. Mae wedi ei lleoli mewn ardal sy'n awr yn warchodfa natur leol ac mae yno olygfeydd anhygoel allan dros y môr. Bu Rachel Mills a Stuart Green o Gyngor Sir Ceredigion yn gweithio gyda Iachus Gyda'n Gilydd i gynnwys rhai o'r plant lleol i greu'r lloches. Y syniad tu cefn iddo oedd cael lle ar gyfer cynllun chwarae yn yr haf a hefyd i ysgolion lleol ddod â'u plant allan am y diwrnod. Aeth Oli wedyn i mewn i ysgolion lleol a siarad gyda'r plant am ba fath o gynllun y bydden nhw am ei weld, unwaith eto'n cynnwys y plant cymaint â phosibl yn y camau ar y daith. Yn amlwg, fyddai hi ddim wedi bod yn ymarferol i gynnwys y plant iau yn y gwaith o adeiladu'r lloches gan y gallai fod wedi bod braidd yn beryglus, ond fe wnaethon nhw gael help gan Ymddiriedolaeth y Tywysog gyda grŵp o bobl ifanc rhwng 18 a 25 oed a fu'n gweithio'n galed er mwyn codi'r lloches. Roedd Rachel yn hael ei chanmoliaeth o'r prosiect a chredai fod y gwaith yn werthfawr iawn ar gyfer creu'r lloches. Meddai: "Mae popeth y mae'r prosiect wedi'i wneud wedi mynd y tu hwnt i'n disgwyliadau. Fe aethon nhw i'r ysgolion gan ymgynghori gyda'r plant am gynlluniau gan helpu i ddod â'r lloches i fod. Fydden ni ddim wedi bod â'r amser i wneud llawer o'r hyn a wnaethon nhw ac felly maen nhw wedi bod yn help mawr. "Ac mae'r canlyniad yn anhygoel. Mae gan y plant ymdeimlad gwirioneddol o berchenogaeth nawr ac mae ganddyn nhw le gwych i ddod i chwarae. Fe redodd Oli gynllun chwarae llwyddiannus iawn yma a gobeithio y bydd yn dal i gael ei ddefnyddio gan y plant lleol." Ein hymweliad olaf o'r dydd oedd Canolfan Deulu yn Llandysul i siarad gyda rhai o'r mamau am yr hyn y mae Iachus Gyda'n Gilydd wedi'i wneud yno. Mae'r patrwm yn debyg iawn i'r Grŵp Rhieni Ifanc gyda rhieni'n dod â'u plant ifanc yno a chymryd rhan mewn gweithgareddau a chwrdd â rhieni o'r un meddylfryd. Mae'r prosiect wedi dod i mewn a rhedeg gwersi coginio, gan ddysgu'r plant a'r rhieni am fyw yn iach. Y ffaith fod rhieni'n cymryd rhan ac yn dysgu hefyd yw sylfaen gwerthfawrogiad y Ganolfan Deulu o waith y prosiect. Meddai Cydlynydd y Ganolfan Deulu, Christine Adams: "Mae'r plant wedi mwynhau'r sesiynau coginio'n fawr iawn ond mae'r rhieni wedi eu mwynhau hefyd ac mae pawb wedi bod yn dysgu pethau newydd, ac mae hynny'n bwysig. Y rhieni sy'n bwydo eu plant felly mae angen iddyn nhw ddysgu beth sy'n dda a beth sy'n ddrwg o ran bwyta. Doedd gan rhai o'r rhieni ddim clem am goginio ond maen nhw wedi datblygu rhai sgiliau ac wedi gwella nawr; mae wedi bod yn brofiad gwerth chweil i bawb." Mae'r ganolfan hefyd wedi bod allan ar drip pysgota ac wedi dod â'r pysgod a ddalion nhw yn ôl i goginio pryd iach a'r math yma o weithgaredd sydd wedi creu ymdeimlad o gymuned yn yr ardal gyda'r holl deulu'n cymryd rhan. Meddai'r gweithiwr chwarae, Rachel Thompson: "Mae'r prosiect wir wedi rhoi ymdeimlad o gymuned i'r lle. Mae'r holl deulu wedi bod yn cymryd rhan. Yn aml dim ond y mamau sy'n dod i lawr ond rydyn ni wedi cael tadau'n cymryd rhan hefyd; mae wedi bod yn brosiect teuluol go iawn." Felly, yn union fel pawb arall y buon ni'n siarad â hwy, roedden nhw'n llawn canmoliaeth am y prosiect ac am bawb fu'n cymryd rhan. Aeth Christine ymlaen: "Roedd eu cael nhw'n cymryd rhan y peth gorau allai fod wedi digwydd. Mae eu cefndir yn rhagorol ac rydyn ni wedi cael perthynas wych gyda nhw." Wel mae'n ymddangos mai dyna'r farn gyffredinol am y prosiect, ac i fod yn onest, dydy pethau ddim yn dod llawer gwell na hynny. Wedi gweld y prosiect drosom ein hunain, mae'n amlwg nad yw Tom, Oli ac Iona'n gwneud y gwaith i gael clod, ond am eu bod wrth eu boddau'n ei wneud ac yn cael llawer allan ohono. Mae effaith y prosiect yn bellgyrhaeddol ac mae'n ymddangos yn anhygoel o gadarnhaol. Mae'r plant yn gyffrous am yr hyn y maen nhw wedi'i gyflawni ac am beth maen nhw'n ei wneud yn y dyfodol, ac mae hynny'n bwysig. Mae'n bendant yn ymddangos fod y prosiect yn mynd i adael rhywbeth parhaol ar ei ôl yng Ngheredigion.
|
| LAST_UPDATED2 |
No current events.