Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Newyddion am Brosiectau > Y diweddaraf ar brosiect y Rhaglen Hwyl, Bwyd a Ffitrwydd
Y diweddaraf ar brosiect y Rhaglen Hwyl, Bwyd a Ffitrwydd PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
TUESDAY, 05 APRIL 2011 11:26

Rydym bellach ym mlwyddyn 2 y Rhaglen Hwyl, Bwyd a Ffitrwydd llwyddiannus sy’n cael ei chyllido gan y Loteri Fawr ac a sefydlwyd gan Grŵp Sefydliad Gellideg fel derbynyddion grant.

Mae dros 270 o blant ysgolion cynradd wedi cael hwyl fawr a phrofiadau dysgu newydd. Daw’r plant o ysgolion Coed y Dderwen, Heol Gerrig, Gwernllwyn, Pantyscallog, Edwardsville a Threlewis ynghyd â chlybiau ar ôl ysgol Gellideg a Trinity. Bu’r plant yn profi manteision y rhaglen Hwyl, Bwyd a Ffitrwydd sy’n hyrwyddo iechyd a lles ymysg plant dan 12 oed ac yn eu harfogi gyda’r wybodaeth, y sgiliau a’r patrymau ymddygiad fydd yn eu paratoi ar gyfer bywyd mwy iach yn y dyfodol.

cooking_sessions_smallMae Cyfarthfa’n un o blith 4 Ward Cymunedau’n Gyntaf i brofi’r gweithgareddau llawn hwyl sy’n hyrwyddo bwyta iach parhaus, ymarfer corfforol ac i ysbrydoli hoffter o arddio a garddwriaeth.

Mae gweithgareddau bwyd cymunedol yn canolbwyntio ar Weithdau Gellideg sydd newydd eu ehangu a’u hadnewyddu. Mae’r Tiwtor Arlwyo, gyda chefnogaeth mewn sesiynau a Gwirfoddolwyr ymroddedig, yn cynnig sesiynau coginio i rai dan 12, i ieuenctid ac i deuluoedd tra’n hyrwyddo dysgu cymunedol i oedolion.    

Mae gweithgareddau ffordd o fyw actif yn rhoi cyfle i’r gymunedol fod yn heini ac i gwrdd â ffrindiau newydd yng Nghampfa Cymunedol Gellideg, tra’n dysgu am y rhesymau dros ymarfer a’r manteision i’r corff.

Mae Tyfwch e’n Wyrdd yn aros yn awyddus am agoriad a lansiad Poly-dwnnel Cymunedol Gellideg, sy’n 54 troedfedd o hyd, ac am lansio’r ardd bywyd gwyllt yn Ysgol Heolgerrig a fydd yn cynnig cyfleoedd rhagorol llawn hwyl, yn gymdeithasol ac yn economaidd ar gyfer y ward cyfan gyda chyfle i hau a thyfu eich bwyd eich hun fydd yn cael ei gynaeafu’n ffres.  Bydd hyn yn digwydd ddydd Gwener, 15fed Ebrill am 2pm.

Diolch i’r Loteri Fawr ac i’r rhaglen Ffordd o Fyw, mae cydweithfa fwyd wythnosol yn awr ar gael ar gyfer y teulu cyfan i gael gafael ar ffrwythau a llysiau ffres heb fod am elw, sy’n gefnogaeth wych yn ystod cyfnod economaidd mor galed!

Pollytunnel_before_small Pollytunnel_after_small
LAST_UPDATED2
 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.