| Erthygl Nodwedd – Erthygl Iachus Gyda'n Gilydd |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| SUNDAY, 28 AUGUST 2011 16:39 |
|
Yn ddiweddar fe gomisiynodd Rhaglen Iachus Gyda'n Gilydd Ceredigion y Ganolfan Ymchwil Perfformio (CPR) i ddylunio prosiect ar gyfer grwpiau o bobl ifanc allai archwilio materion bwyta'n iach drwy berfformiad.
Er mwyn cael ysbrydoliaeth ar gyfer eu gwledd bu'r plant yn ymchwilio i flasau ac arogleuon nad oeddent wedi dod ar eu traws erioed o'r blaen, a buont yn astudio hanes, diwylliannau pell i ffwrdd, chwedlau a storïau tylwyth teg. Aethant ati i becynnu'r profiadau hyn a'u cynhwyson mewn blychau, gafodd wedyn eu cludo i un o'r pum cymuned arall i gael eu hagor a'u mwynhau. Bu'r grwpiau wedyn yn cymryd rhan mewn gwledd berfformiadol olaf yn y Neuadd Goffa yn Aberaeron. Roedd yn ddigwyddiad ffantastig, yn llawn golygfeydd, arogleuon a seiniau gwahanol a chafwyd perfformiad bywiog a lliwgar gan CPR. Cafodd y plant eu hudo gan y sioe, oedd yn help mawr iddyn nhw archwilio amrywiaeth o fwydydd newydd a gwahanol. Dyma'r daith a ddilynodd y grwpiau... Gwledd y Tylwyth Teg - Grŵp Addysg yn y Cartref Cellan "Cafodd y wledd gafodd ei greu gyda'n gilydd ar gyfer grŵp Llanarth ei hysbrydoli gan chwedlau Tylwyth Teg Cymru. Roedd y bwyd yn seiliedig ar fwydydd Cymreig lleol ac roedd yn cynnwys cacennau bara lawr a jeli oedd yn cynnwys blodau rhosyn gwyllt wedi eu casglu â llaw. Fe wnaethon ni'r wledd mor hudol â phosibl, yn cynnwys gemau "uwchsynhwyrau", allor tylwyth teg, mygydau Tylwyth Teg a pherfformiad defodol. Fe ddechreuodd gyda'r wledd mewn cês dillad â chlo cyfunrif arno. Gofynnwyd i'r plant ddehongli'r cod o'r dyfyniad o chwedl Gymraeg, felly roedd elfen addysgiadol hefyd! Fe wnaethon ni hyd yn oed wneud platiau bara ceirch y gellid eu bwyta!"Anna Clarke, Hwylusydd y Celfyddydau Grŵp Addysg yn y Cartref Cellan Gwledd y Dryw - Grŵp Ysgol Gynradd Llandysul a Grŵp Canolfan y Teulu Llandysul "Cafodd y wledd a grëwyd ar gyfer Grŵp Cei Newydd ei ysbrydoli gan y traddodiad o hela ar Ddydd San Steffan. Cafodd y plant eu cymryd yn ôl i gyfnod pan oedd hela'n arfer digwydd a gofynnwyd iddyn nhw ailberfformio'r traddodiad hwn, gan ddod o hyd i 28 dryw sydd wedyn yn cael eu dal yn gaeth wyneb i waered mewn caets aur. "Daeth perfformwyr wedi eu gwisgo fel pedair cigfran ddall i newid cwrs hanes ac mae'r plant sydd wedi bod yn hela'r drywod yn cael eu troi'n adar. Bu'r 'adar' yn paratoi gwledd gyda phedair elfen: aperitif o gordial blodau, salad o domatos bach a pherlysiau, prif gwrs o wyau soflieir pelydrog a phwdin o fefus 'popian'. "Cafodd yr adar eu troi'n ôl yn blant i fwyta'r wledd ac i ddysgu'r wers "ni fydd y sawl sy'n dwyn o nyth y dryw yn cael iechyd yn ystod ei fywyd". Daeth y wledd i ben wrth i'r drywod gael eu rhyddhau'n ddefodol o'u caetsys i ofal unigol pob un o'r plant." Guy Norman, Hwylusydd y Celfyddydau i'r ddau grŵp yn Llandysul Gwledd y Bwystfil - Grŵp Ysgol Gynradd Llwyn-yr-Eos, Penparcau a Chlwb Ar ôl Ysgol, Penparcau "Bu'r ddau grŵp yn edrych ar storïau oedd yn ymwneud â labyrinth. Buon ni'n edrych ar storïau bugeiliaid o Gymru, Labyrinth Creta. Fe benderfynon ni greu gwledd i Cellan oedd yn addas i feganiaid ac yn rhywbeth i'w fwynhau i ninnau. "Cafodd pob elfen o'r cawl lentil a chneuen goco Thai ei ddadansoddi fel rhan o gorff y bwystfil gafodd ei ganfod yn y labyrinth. Roedden ni am i Cellan fwynhau gweithgaredd corfforol drwy gemau oedd yn cael eu chwarae yn y labyrinth. Roedd hyn yn eu galluogi i ennill y cynhwysion i ail-greu'r bwystfil fel rhywbeth i'w fwyta." Steve Davis, Hwylusydd y Celfyddydau i'r ddau grŵp ym Mhenparcau. Gwledd Bwyd Gwyllt - Grŵp Bwyd Gwyllt Llanarth "Cafodd ein gwledd ei ysbrydoli gan gyfres o deithiau cerdded bwydydd gwyllt, a bu'n esblygu dros y cyfnod o dri mis. Fe ddefnyddion ni ddeunyddiau naturiol a phorthiant y buon ni'n eu casglu yn ystod ein sesiynau. Fe geision ni gyfleu'r broses hon yn ein blwch, gan wneud lliain bwrdd i ddarlunio'r ardal lle digwyddodd ein sesiynau a chan orffen gyda helfa drysor, i fynd â'r grŵp yr oedden yn ei basio iddo (Llandysul) allan i fyd natur, i chwilota am amheuthunion gwyllt." Jade Mellor, Hwylusydd y Celfyddydau, Grŵp Bwyd Gwyllt Llanarth Gwledd y Dreigiau Bach yn Datblygu - Grŵp Ysgol Gynradd Cei Newydd "Bu grŵp Cei Newydd yn cymharu gwleddoedd a seremonïau Japan a Chymru. Fe sylweddolon nhw er bod gwahaniaethau diddorol y gellid eu harchwilio ymhellach, fod yna hefyd lawer o bethau oedd yn gyffredin i ddiwylliant Japan a diwylliant Cei Newydd megis hanes chwedloniaeth dreigiau a gorffennol oedd yn dibynnu ar y môr fel ffynhonnell bwysig ar gyfer bwyd. Aeth y plant ar alldeithiau i gasglu eu bwyd eu hunain o'r môr; buon nhw'n cynaeafu gwymon ac yn dysgu sut i ffiledu pysgod; buon nhw'n blasu nori o Japan a bara lawr o Gymru ac yn datblygu eu smŵddis gwymon eu hunain a thwmplenni caw. Buon nhw hefyd yn ymchwilio i becynnu bwyd yn Japan ac yn datblygu eu logo a'u deunydd lapio eu hunain ar gyfer gwledd Penparcau." Vicky Wilson, Hwylusydd y Celfyddydau, Grŵp Ysgol Gynradd Cei Newydd Roedd y wledd yn ddigwyddiad ffantastig ac yn ddi-os bydd yn destun siarad i'r prosiect am amser maith. |
| LAST_UPDATED2 |
No current events.