Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Newyddion am Brosiectau > Prosiect y mis
Prosiect y mis PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Steven Ross   
MONDAY, 24 OCTOBER 2011 14:51

Prosiect tair blynedd ar thema 'Ffrindiau Iach' oedd y prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu'n Iach yn sir Gaerfyrddin (yn gweithio yn Rhydaman, Caerfyrddin, Llanelli a Chastell Newydd Emlyn). Bu'n gweithio'n bennaf gyda phlant 7/8 a 10/11 oed drwy gyfrwng prosiect 'bydi' gan ymestyn allan i gyrraedd plant iau a'u teuluoedd o ddwy oed i fyny.

Mae ymchwil yn awgrymu fod maethiad a lefelau gweithgaredd corfforol yn ddau fath o ymddygiad y gellir eu haddasu os caiff dewisiadau ffordd o fyw cadarnhaol eu cyflwyno yn ystod plentyndod.

Cychwynnodd y prosiect ym mis Tachwedd 2008 a daeth i ben ym mis Hydref 2011 ac roedd wedi'i anelu at godi ymwybyddiaeth o werth gweithgaredd corfforol a bwyta'n iach, ac i gyflwyno syniadau ar gyfer 'cynllun bydi' mewn amgylchedd anaddysgol traddodiadol. Mae gwaith yn y maes hwn yn aml yn ffocysu ar raglenni iechyd sy'n cael eu cyflwyno drwy ysgolion, ond roedd y prosiect hwn yn darparu 'dysgu drwy chwarae'.

Roedd gweithgareddau'n bennaf yn ffocysu ar 'gynlluniau bydi' gyda phlant oedran iau'n mynychu clybiau gofal plant y tu allan i'r ysgol a gofalwyr plant. Roedd pob plentyn oedd yn gwirfoddoli i fod yn 'bydi' yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth.

Yn ogystal â'r elfen 'cynllun bydi' gyda phlant hŷn, cafodd rhai adnoddau eu treialu gyda phlant iau/cyn ysgol. Roedd hyn yn sicrhau fod y negeseuon a'r adnoddau cysylltiedig yn cyrraedd cymuned ehangach ar oedran cynharach a bod y plant, eu teuluoedd a gweithwyr gofal plant yn dod yn gyfarwydd â'r cynnwys. Cafodd effaith y prosiect ei werthuso gyda'r plant, y rhieni a gweithwyr gofal plant.

Cafodd y prosiect ei ariannu gyda £425,797 o fenter Ffordd o Fyw y Gronfa Loteri Fawr, oedd yn anelu at ddatblygu ffyrdd newydd ac arloesol o hybu bwyta'n iach, gweithgaredd a chwarae ymhlith plant drwy gyfrwng prosiectau sy'n cynnwys y teulu cyfan.

Datblygwyd cardiau gweithgaredd dwyieithog i gael eu defnyddio gan y 'bydis' a'u peilota drwy gydol y prosiect. Roedd ymgynghori parhaus gyda'r plant ac asiantaethau proffesiynol yn hysbysu datblygiad y cardiau. Derbyniodd pob lleoliad oedd yn cymryd rhan becyn o 70 cerdyn oedd yn ffocysu ar weithgareddau corfforol, maethol a gwerthusol. Bu derbyniad da i'r cardiau ym mhob lleoliad a llwyddwyd i gadw sylw plant mewn clybiau gofal plant allan o'r ysgol, gofalwyr plant a lleoliadau cyn ysgol. Casglwyd data bob tymor gan ddefnyddio holiaduron hwyliog rhyngweithiol ar gyfrifiadur a dyma'r cynnydd a wnaethpwyd:-

Ymddygiad Maethol

Roedd 71% o'r rhai fu'n cymryd rhan wedi gwella (51%) neu wedi cynnal (20%) eu cymeriant dyddiol o lysiau. (O'r rhai a gynhaliodd eu lefelau roedd 76% eisoes yn bwyta rhwng 3 a 5 dogn y dydd.)

Ymddygiad Corfforol

Roedd 78% o'r rhai fu'n cymryd rhan wedi gwella (40%) neu wedi cynnal (38%) eu lefelau ymddygiad corfforol. (O'r rhai oedd wedi cynnal eu lefelau roedd 92% eisoes wedi datgan eu bod yn cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol).

Ymwybyddiaeth Faethol

Roedd 76% o'r rhai fu'n cymryd rhan wedi gwella (33%) neu wedi cynnal (43%) eu hymwybyddiaeth faethol. (O'r rhai a gynhaliodd eu lefelau gwybodaeth roedd 95% yn gwybod y dylen nhw fod yn bwyta 5 dogn neu ragor y dydd.)

Ymwybyddiaeth Gorfforol

Roedd 76% wedi gwella (40%) neu wedi cynnal (36%) eu lefelau ymwybyddiaeth. (O'r rhai a gynhaliodd eu lefelau roedd dros 75% eisoes wedi datgan y dylen nhw fod yn ymarfer corff mwy na 3 gwaith yr wythnos.)

Agwedd Faethol

Roedd 93% wedi gwella (38%) neu wedi cynnal (55%) eu hagwedd tuag at fwyta llysiau. (O'r rhai a gynhaliodd eu lefel, dywedodd 96% eu bod yn hoffi bwyta llysiau'n fawr.)

Agwedd Gorfforol

Roedd 91% wedi gwella (16%) neu wedi cynnal (75%) eu hagwedd tuag at weithgaredd corfforol. (O'r rhai a gynhaliodd eu lefelau dywedodd 96% eu bod eisoes yn mwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau'n fawr.)

Cafwyd y sylwadau canlynol gan staff fu'n cymryd rhan yn y prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu'n Iach:

"Mae'r Prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu'n Iach wedi bod yn llwyddiant mawr gyda'r plant yn fy lleoliad i; roedden nhw wrth eu bodd yn tyfu ac yn bwyta'r holl ffrwythau a llysiau a dydyn nhw ddim yn gallu aros i ddechrau tyfu mwy. Fe wnaethon nhw fwynhau'r ymarferion i gyd hefyd" – clwb gofal plant tu allan i'r ysgol

"Mae hwn wedi bod yn brosiect rhagorol. Mae'n gwella'r hyn rydyn ni'n ei wneud yn barod, gan annog dewisiadau iach. Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at ymweliadau Helene ac at ateb y cwestiynau ar y gliniadur a chwarae'r gemau a chael sgwrs! Rydyn ni'n gwerthfawrogi'r cardiau adnoddau i gyd gyda'r holl syniadau da am weithgareddau. Rydyn ni'n gwneud llawer o'r rhain ar y traeth gerllaw. Mae'r offer chwaraeon a dderbynion ni'n wych ac rydyn ni'n hynod ddiolchgar. Rydyn ni'n cael llawer o hwyl bob amser! Diolch yn fawr." – Gwarchodwr plant.

Cynhaliwyd dathliad o gyflawniadau'r prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu'n Iach yng Nghanolfan Haliwell, Caerfyrddin ar 7 Hydref.

 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.