Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Newyddion am Brosiectau > Bysiau Byd y Bwyd yn helpu plant i ddechrau coginio
Bysiau Byd y Bwyd yn helpu plant i ddechrau coginio PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Steven Ross   
WEDNESDAY, 25 JANUARY 2012 10:56

Pa well ffordd i annog bwyta’n iach nag i gael plant yn frwdfrydig am goginio? Mae’r ymgyrch Byd y Bwyd yn gweithio ledled Cymru er mwyn gwneud yr union beth.

Sefydlwyd yr Ymgyrch Byd y Bwyd ym 1998, a hon yw prif raglen addysgu ymarferol ac estyn allan y DU ar fwyd. Mae’n cydnabod fod coginio’n sgil bywyd sylfaenol y mae pob plentyn yn haeddu cael addysg ynddi ac mae’n anelu at ysbrydoli a galluogi pobl ifanc a’r gymuned ehangach i ddethol, paratoi a choginio bwyd iach.

Mae’r hyfforddiant yn digwydd yn ei hystafelloedd dosbarth symudol blaengar, y Bysiau Coginio. 

Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, y Bartneriaeth Bwyd am Oes drwy gyfrwng Cyllido’r Loteri Fawr ac ar y cyd gan Lywodraeth yr Alban ac Asiantaeth Safonau Bwyd yr Alban. Mae’r bysiau’n teithio o gwmpas ysgolion a grwpiau cymunedol yn addysgu sgiliau coginio, maetheg, bwyta’n iach a gwerthfawrogi bwydydd da ac o ble mae’r bwyd yn dod.

Mae gwaith Byd y Bwyd yn ymestyn y tu hwnt i’w fysiau: mae’n darparu adnoddau hanfodol i helpu athrawon addysgu sgiliau coginio.

I ddysgu mwy, ewch i wefan Byd y Bwyd: http://www.focusonfood.org/home.html

 

LAST_UPDATED2
 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.