Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Newyddion am Brosiectau > Erthygl nodwedd – Sir Gaerfyrddin
Erthygl nodwedd – Sir Gaerfyrddin PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
FRIDAY, 26 FEBRUARY 2010 14:26

Gellid dadlau mai'r elfen bwysicaf wrth sicrhau bod pobl, a phlant yn enwedig, yn bwyta'r bwydydd iawn yw addysg. Un peth yw dweud 'bwyta hwn' neu 'paid â bwyta hwnna', ond oni bai bod hyn yn cael ei ddeall, does dim pwrpas iddo.

Mae aelodau'r Tîm Chwarae, Dysgu a Thyfu'n Iach wedi bod yn gofyn cwestiynau pwysig i blant a'u holi ynghylch pa weithgareddau maen nhw'n eu gwneud, ac mae'r canlyniadau'n galonogol iawn.

Roedd atebion i'r cwestiynau gafodd eu holi yn ystod Cam 1 y prosiect eisoes yn galonogol iawn, ond maen nhw'n well fyth yng Ngham 2.

Pan ofynnwyd i blant ymateb i'r datganiad 'Rwy'n hoffi ffrwythau', atebodd dros 80% eu bod yn cytuno'n fawr, gyda llai na 10% yn dweud eu bod yn anghytuno.

Roedden nhw hefyd yn wybodus ynghylch faint o ffrwythau y dylen nhw eu bwyta bob dydd. Roedd dros 60% yn gwybod y dylech chi fwyta pum darn y dydd, er nad oedd neb wedi ateb llai na phedwar.

Maen nhw hefyd wedi bod yn griw gweithgar hefyd, gan gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon ac ymarfer corff. Dywedodd dros 90% o'r plant eu bod wedi bod yn rhedeg neu'n cerdded yn ystod yr wythnos flaenorol.

Roedd llawer o'r plant hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau trampolîn (tua 80%), beicio (tua 75%) a nofio (tua 65%).

Gwelwyd cynnydd yn y rhai fu'n cymryd rhan yn y gweithgareddau i gyd, ar wahân i arddio, rhwng Cam 1 a Cham 2.

I weld dadansoddiad llawn o'r canlyniadau, cliciwch yma <INSERT LINK TO PDF>

Mae'r prosiect hefyd wedi sefydlu cynllun 'bydi' lle mae'r plant 10 ac 11 oed yn defnyddio cardiau adnoddau sy'n rhoi gweithgareddau iddyn nhw eu gwneud gyda phlant iau. Maen nhw wedi bod yn gwerthuso'r gyfres gyntaf o gardiau, yn seiliedig ar 'weithgaredd corfforol' ac mae'r adborth wedi bod yn rhagorol.

Meddai rheolwr y prosiect, Karen Pereira: "Mae'r cardiau a'r gweithgareddau wedi bod yn boblogaidd iawn, maen nhw wedi creu argraff ar bawb. Rydym hefyd wedi cael llawer o sylwadau cadarnhaol gan bobl y tu allan i'r prosiect. Ac mae'r plant i weld yn elwa llawer ohono hefyd, felly mae hynny'n wych."

Mae'r prosiect yn awr yn brysur yn darparu'r ail set o adnoddau yn seiliedig ar 'faethiad' ac yn gobeithio y bydd y rhain yr un mor llwyddiannus â'r rhai cyntaf.

Dyma eiriau rhai o'r plant fu'n cymryd rhan:

"Ers i mi fod ar y prosiect PLGH rydw i'n gwneud mwy o goginio gartref gyda Mam ac rydw i wedi dod yn fwy ymwybodol o fwyd iach ac ymarfer corff.

Yn y clwb, bues i'n gwneud dipiau gyda chennin syfi, moron, seleri a chiwcymer ac roedd pawb wrth eu bodd gyda'r wyau wedi'u stwffio!"

Maen nhw felly wedi bod yn bobl bach weithgar iawn draw yn Sir Gaerfyrddin, ond maen nhw hefyd wedi bod yn defnyddio eu cyhyrau artistig hefyd. Edrychwch ar y poster gwych hwn ar ffrwythau a llysiau gan Rebecca, sy'n 8 oed.

carmarthenshire1

Prosiect ymchwil newydd 3-blynedd sy'n cael ei gyllido gan y Loteri Fawr yw prosiect PLGH, dan arweiniad Clybiau Plant Cymru gan weithio mewn partneriaeth gyda Mudiad Ysgolion Meithrin a Chymdeithas Clybiau Chwarae Cyn-Ysgol (PPA) Cymru. Mae'n gweithio'n bennaf gyda phlant 7/8 a 10/11 oed drwy gynllun 'bydi', ond bydd yn ymestyn i gynnwys plant iau o 2 oed i fyny a'u teuluoedd.

 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.