| Erthygl Nodwedd – Heini am Hwyl, Sir Gaerfyrddin |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| TUESDAY, 23 MARCH 2010 15:07 |
|
Mae Erthygl Nodwedd y mis yma'n edrych ar y prosiect Heini am Hwyl yn Sir Gaerfyrddin. Trefnodd y prosiect gyfres o weithdai coginio bwydydd iach yn Ysgol y Felin lle bu'r gogyddes broffesiynol, Hazel Thomas, yn dysgu plant sut i wneud amrywiaeth o brydau bwyd iach yn cynnwys pasta, pizzas a smŵddis ffrwythau.
Roedd sesiwn holi ac ateb yn cael ei chynnal ar ddechrau bob sesiwn ynghylch y bwyd a'r prydau oedd yn mynd i gael eu gwneud y diwrnod hwnnw. Roedd trafodaeth yn cael ei chynnal wedyn am bob cynhwysyn a'i werth maethol. Roedd y plant wedyn yn cael eu lle eu hunain i weithio ac yn gwneud eu saig unigryw eu hunain. Roedden nhw wedyn yn mynd â'r saig adref gyda'r rysáit a gwahanol ddogfennau cefnogi ar faterion fel '5 y dydd' a chymeriant halen a siwgr.
Halen oedd pwnc yr ail wers gan esbonio cyn lleied o halen y dylen nhw fod yn ei gael mewn gwirionedd. Dysgodd Hazel nhw wedyn sut i ddechrau gwneud toes bara ac fe wnaethon nhw i gyd pizzas yn defnyddio cynhwysion ffres fel pîn afal ac india corn. Brasterau dirlawn oedd ffocws y drydedd wers a dysgodd y plant sut i leihau faint o fraster dirlawn y maen nhw'n ei gael yn eu bwyd. Defnyddiodd Hazel daflenni gwybodaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd i esbonio i'r plant ble fyddan nhw'n dod o hyd i frasterau dirlawn ac yna dysgodd nhw i wneud couscous ffrwythau ffres. Roedd y plant yn cael eu hannog i flasu'r gwahanol ffrwythau, llysiau, cnau a hadau er mwyn iddyn nhw allu darganfod blasau newydd ac o bosibl blasu rhai bwydydd am y tro cyntaf.
Cafwyd gweithdy pellach wedyn oedd yn trafod pynciau fel traws halogiad a pha fwydydd sy'n gallu magu bacteria'n hawdd. Yna rhoddodd Hazel daflenni llawn gwybodaeth i'r plant ac fe roddodd lyfrau ryseitiau iddyn nhw hefyd, wedi eu darparu gan Gyngor Sir Caerfyrddin, yn dilyn eu hymgyrch Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff. Roedd Hazel wrth ei bodd gyda'r derbyniad a gafodd gan y plant a'i gobaith oedd eu bod wedi dysgu gwersi pwysig i'w cofio wrth iddyn nhw dyfu i fyny. Meddai, "Mae'r ymateb wedi bod yn gwbwl anhygoel yn y ddwy ysgol ac mae athrawon y ddwy ysgol wedi dweud cymaint y mae'r plant wedi newid dros yr wythnosau. Maen nhw'n trafod y sesiynau drwy'r amser ac yn edrych ymlaen yn fawr at y sesiwn goginio nesaf. Fe hoffwn feddwl fod y fformat a'r dull rwy'n ei ddefnyddio yn cael ei fabwysiadu gan yr ysgolion unwaith y bydd fy ngwaith i wedi dod i ben ac y bydd yr ysgol yn parhau i annog plant i edrych ar fwyd mewn ffordd wahanol. Bwytau i fyw yn lle byw i fwyta." Ydy'ch prosiect chi wedi bod yn gwneud rhywbeth cyffrous? Anfonwch nodyn atom ni a gallech chi gael sylw yma ar wefan Ffordd o Fyw. |
No current events.