Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Newyddion am Brosiectau > Erthygl Nodwedd – Ffactor-Ff
Erthygl Nodwedd – Ffactor-Ff PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
THURSDAY, 29 APRIL 2010 12:50

Mae sylw erthygl nodwedd y mis hwn ar y prosiect Ffactor-Ff sy'n digwydd yn Sir Ddinbych.

Ar fore Sul heulog ym Mharc Coffa'r Rhyfel, Corwen, daeth teuluoedd at ei gilydd i gymryd rhan yng ngŵyl Ffactor-Ff a chael eu plant i gymryd rhan mewn byw yn iach.

Doedd hi'n costio dim i fynychu'r ŵyl, ac roedd llu o weithgareddau a gemau i gymryd rhan ynddyn nhw, y cyfan yn cael y plant i wneud ymarfer corff a'u gwneud yn ymwybodol o bwysigrwydd byw yn iach.

Roedd cyfle iddyn nhw roi tro ar amrywiaeth o chwaraeon, yn cynnwys pêl-droed, rygbi, criced, bowlio a thennis, yn ogystal â llawer o bethau eraill llawn hwyl fel sleidiau gwynt, gemau peli a phob math o grefftau.

Daeth timoedd chwaraeon lleol, yn cynnwys Clwb Pêl-droed Corwen, i roi o'u hamser a'u harbenigedd i drefnu gemau a gweithdai sgiliau i blant a rhieni, gyda chriced yn enwedig yn boblogaidd tu hwnt.

Roedd canolfan beicio mynydd Llandegla'n ddigon caredig i ddod â'u beic mynydd sy'n gwneud smŵddis hefyd, lle mae beicio'n pweru cymysgydd ar gefn y beic i wneud smŵddi ffrwythau go iawn y gall y beiciwr wedyn ei yfed ei hun!

Gan barhau â thema bwydydd iach, bu tîm o Goleg Glannau Dyfrdwy yn coginio gan ddysgu plant sut i wneud saladau ffrwythau, cebabau ffrwythau, llysiau wedi'u tro-ffrio, a prydau iach eraill y gallan nhw eu coginio eu hunain neu gyda'u rhieni adref. Roedd pawb wedi mwynhau'r sesiynau'n fawr iawn ac yn hapus iawn gyda'r bwyd gafodd ei goginio ganddynt.

Dim ond rhai o'r gweithgareddau oedd ar gael yn yr awyr agored yw'r rhain, ac roedd rhagor o bethau'n digwydd dan do. Roedd byrddau o ffrwythau ffres i'r plant gael eu bwyta a gwybodaeth iddyn nhw ddysgu am y gwahanol fwydydd y maen nhw'n eu bwyta. Roedd rhagor o grefftau hefyd yn cynnwys gwneud crysau-t, oedd yn boblogaidd iawn.

Daeth Katharine Williams i'r digwyddiad gyda'i dau blentyn, Daniel a Chloe. Roedd hi wrth ei bodd gyda'r hyn oedd ar gael yno.

Meddai: "Fe ddaethon ni i lawr i weld beth oedd yn mynd ymlaen, ac mae cymaint yn digwydd yma. Dydy'r plant ddim wedi stopio ers iddyn nhw gyrraedd ac maen nhw wedi mwynhau'r gweithgareddau i gyd yn fawr iawn.

"Mae'n wych bod digwyddiadau fel y rhain yn digwydd. Mae'n gwneud i'r plant wneud rhywbeth a gobeithio y bydd yn ennyn eu diddordeb mewn bwydydd iach. Dydy hynny ddim bob amser yn beth hawdd. Oni bai am brosiectau fel Ffactor-Ff, efallai na fydden nhw'n cael y cyfle i ddod i ddigwyddiadau fel hyn."

Roedd arweinydd y prosiect Ffactor-Ff, Richard Griffin, yno i gyfarfod a chroesawu'r teuluoedd wrth iddyn nhw gyrraedd, ac roedd yntau wrth ei fodd gyda'r ymateb i'r diwrnod.

Meddai: "Mae'n galonogol iawn gweld cymaint o deuluoedd yma. Mae'r cyfan yn ymwneud ag ymgysylltu â'r gymuned gyda gogwydd iechyd a dyna beth mae'r ŵyl yn ei hyrwyddo. Mae gennym lwyth o bethau'n digwydd ac mae pawb i weld yn cael diwrnod bendigedig."

Roedd Richard hefyd yn hapus iawn gyda sut y mae'r prosiect Ffactor-Ff yn dod yn ei flaen yn gyffredinol.

"Rydyn ni wedi cael busnesau lleol ac ysgolion i gymryd rhan, ac yn gyfan gwbl rydyn ni wedi estyn allan at tua 12,000 o blant ar draws y sir. Mae gwaith ar ôl i'w wneud o hyd, ond mae'r adborth hyd yn hyn wedi bod yn gadarnhaol dros ben."

Dyma'r drydedd ŵyl Ffactor-Ff i ni ei threfnu, gyda phedwaredd wedi'i chynllunio yn Rhuthun ar Fai 30ain.

Oeddech chi yn yr ŵyl? Os felly cysylltwch â ni <http://www.bigwayoflife.com/en/contact> neu ewch i'r fforymau <http://www.bigwayoflife.com/support/forum> i ddweud wrthym beth oedd eich barn.

 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.