Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Newyddion am Brosiectau > Erthygl Nodwedd – Her i’r Teulu Sir Benfro
Erthygl Nodwedd – Her i’r Teulu Sir Benfro PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
MONDAY, 28 JUNE 2010 10:25

June_newsletter_1Cerdded yw un o'r ffyrdd gorau a hawsaf i gadw'n heini ac mae teuluoedd yn Sir Benfro'n gwisgo eu hesgidiau cerdded diolch i'r prosiect Ffordd o Fyw Her i'r Teulu Sir Benfro.

Mae teuluoedd sy'n cymryd rhan yn y prosiect ar hyn y bryd yn y broses o fynd i'r afael â Llwybr Arfordir Sir Benfro, llwybr arfordirol sy'n ymestyn am 186 milltir o Amroth yn y de i Landudoch yn y gogledd.

Yn amlwg, dydyn nhw ddim yn cerdded y llwybr i gyd ar yr un pryd. Yn hytrach maen nhw'n cerdded adrannau byrrach (er yn dal yn hir) o'r llwybr dros y flwyddyn.

Hyd yn hyn mae teuluoedd wedi cerdded o Amroth i Ddinbych-y-pysgod, o Ddinbych-y-pysgod i Faenorbŷr ac o Stackpole i Aberllydan.

Mae pob un o'r teithiau cerdded hyn yn para am gyfnod o ddyddiau, gafodd eu rhannu'n deithiau byrrach ar bob un o'r dyddiau hynny.

Cafodd rhan gyntaf yr her, o Amroth i Ddinbych-y-pysgod, ei chynnal ar 3 Ebrill. Ymunodd naw teulu â'r daith yn ystod y dydd, gan ddiweddu gyda barbeciw ar y traeth.

"Roedd hi'n wych cael allan o'r tŷ a gwneud rhywbeth gwahanol gyda'r teulu cyfan", meddai aelod o un teulu, "Roedd yn hwyl fawr."

Meddai un arall, "Roedd hi'n braf cael allan o'r tŷ yn ystod gwyliau'r ysgol a chymryd rhan mewn rhywbeth actif. Byddwn ni'n bendant yn cerdded ar lwybr yr arfordir eto."

June_newsletter_2Mae llwybr yr arfordir wedi ei rhannu'n adrannau gwahanol o rhwng milltir a chwe milltir yn cynnwys teithiau i'r teulu, teithiau addas i gadeiriau gwthio a theithiau cerdded mwy heriol, felly mae rhywbeth yno i bawb.

Gall teuluoedd gymryd rhan cymaint neu gyn lleied ag y dymunant, gyda rhai'n gwneud pob taith ac eraill ond yn gwneud un neu ddwy.

"Rydyn ni'n lwcus iawn yn Sir Benfro fod gennym yr adnodd gwych hwn - llwybr yr arfordir - ar stepen ein drws" meddai'r Cynghorydd Siân James, yr aelod Cabinet dros Iechyd a Lles.

"Mae cerdded yn un o'r dulliau gorau o ymarfer corff sy'n bod a pha well ffordd i gadw'n heini na mynd allan i'r awyr iach a cherdded peth o'r llwybr."

Mae'r prosiect hefyd yn darparu gwasanaeth bws mini i fynd â'r teuluoedd yn ôl i'w ceir unwaith y maen nhw wedi cwblhau'r daith gerdded.

June_newsletter_3Mae arweinydd y prosiect, Katie Daly, wrth ei bodd gyda sut mae'r her yn mynd hyd yma.

Meddai: "Mae pob un o'r teithiau hyd yma wedi cael cefnogaeth dda ac mae'r adborth a gawsom wedi bod yn wych, roedd pawb i'w gweld wedi'i fwynhau'n fawr.

"Mae hefyd yn hysbyseb wych ar gyfer yr ardal. Mae'n dangos fod y llwybrau hyn yn hygyrch i bobl a bod modd iddyn nhw fynd allan a'u mwynhau. Ein gobaith yw cael rhagor o deuluoedd i gymryd rhan yng ngweddill y teithiau."
Yn wreiddiol, y bwriad oedd cwblhau'r teithiau i gyd erbyn diwedd gwyliau'r haf ond mae hyn wedi cael ei ymestyn bellach a bydd teithiau'n cael eu cynnal drwy gydol gweddill y flwyddyn.

Am ragor o wybodaeth neu i ymuno â'r her ffoniwch 01437 775775, e-bostiwch Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. neu ewch i http://www.healthchallengepembrokeshire.co.uk.

LAST_UPDATED2
 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.