| Erthygl Nodwedd – Iachus Gyda’n Gilydd - Ceredigion |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| FRIDAY, 28 Mai 2010 10:11 |
|
Mae’r prosiect yn gweithio gyda phlant rhwng 3 ac 11 oed a’u cymunedau i ddathlu bwyta’n iach a gweithgaredd ar draws 5 ardal yng Ngheredigion (Penparcau, Llandysul, Llanarth, Cei Newydd a Llangybi) ac roedd yn gweld y lansiad fel cyfle i ddweud diolch i bawb sydd wedi cefnogi’r prosiect hyd yn hyn yn ogystal â chanolbwyntio sylw ar adnodd cymunedol poblogaidd. Er gwaetha’r glaw, roedd digon o bobl wedi dod ynghyd i gymryd rhan yn y gweithgareddau yn y goedwig oedd yn cychwyn am hanner dydd, yn cynnwys Gwersyll y Goedwig ac Arddangosfeydd o Grefftau Pren gyda’r Sosbenaid Fwyaf yn y Byd o Gawl Llysiau i ginio.
Meddai’r Gweithiwr Datblygu, Oliver Morris: “Roedd yn galonogol dros ben i weld cymaint o blant a phobl ifanc sy’n amlwg yn pryderu am eu hamgylchedd ac sydd hefyd yn fodlon baeddu eu dwylo – buon ni wrthi’n torri tunelli o ganghennau oedd wedi eu lluchio ac fe lanwon ni sgip gyda rwbel, hen ddodrefn, gwastraff cyffredinol a thoriadau lawnt o gartrefi. “Cafwyd llawer o hwyl ac mae’r diwrnod da o waith a gafwyd gan aelodau o’r gymuned yn golygu y gall plant a’u teuluoedd bellach fynd i’r goedwig a mwynhau ei harddwch heb bryderu am wastraff peryglus.” Derbyniodd y prosiect gymorth gan nifer o bobl a mudiadau yn cynnwys Trefi Taclus, Bob Shaw y Coedwigwr lleol, a Gwirfoddolwyr Cadwraeth Prifysgol Aberystwyth. Gyda chydweithrediad pawb, cafodd cam pwysig arall ei gymryd i ofalu am y safle hwn. Meddai Oliver Morris “Mae’r flwyddyn hon wedi bod yn un anhygoel a phrysur iawn i ni, ac roeddwn yn falch dros ben fod cymaint o blant a’u teuluoedd wedi dod atom i ddathlu ar 20 Mawrth ym Mhenparcau – roedd yn andros o hwyl ac mae’n argoeli’n dda am y flwyddyn o’n blaenau!”
|
| LAST_UPDATED2 |
No current events.