| Her i'r Teulu Sir Benfro |
|
Mae Her Teuluoedd Sir Benfro, Prosiect Ffordd o Fyw, yn brosiect newydd i gefnogi'r teulu cyfan ac sydd wedi bod yn gweithredu yn Sir Benfro ers mis Ionawr 2009. Bydd teuluoedd sy'n cymryd rhan ar y rhaglen yn derbyn cefnogaeth ddwys yn rhad ac am ddim gan hyfforddwr ffordd o fyw personol i'w helpu i wneud newidiadau iach i'w ffordd o fyw. Bydd hyfforddwyr ffordd o fyw personol yn gweithio gyda theuluoedd i wneud asesiad cychwynnol o'u hanghenion ac yn cytuno ar raglen deuddeg wythnos, wedi ei hanelu at esgor ar ymddygiad ac agweddau mwy cadarnhaol tuag at:
Bydd y rhaglen yn cael ei theilwra i gwrdd ag anghenion pob teulu unigol. Bydd llawer o'r gweithgareddau’n digwydd yn y cartref ond bydd cyfleoedd hefyd i deuluoedd ymuno mewn gweithgareddau grŵp lle mae hynny'n briodol. Manylion Cyswllt y Prosiect Katie Daly e: Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. t: 01437 775 113 Gwefan y Prosiect: http://www.healthchallengepembrokeshire.co.uk |
No current events.