| LEANA |
|
Mae Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe, mewn partneriaeth gyda Spark Blaenymaes a Chanolfan Teuluoedd a Phlant Treforys newydd lansio prosiect cyffrous newydd o'r enw LEANA. Acronym yw LEANA o'r geiriau Saesneg am Gyngor Addysg Leol ar Faethiad a Gweithgaredd - ac mae'n anelu at hybu bwyta'n iach a gweithgaredd corfforol i blant (rhwng 0 a 12 oed) a'u teuluoedd o bob rhan o Abertawe. Mae'n un o blith dim ond pedwar prosiect ar ddeg ar draws Cymru i dderbyn arian dan Ffordd o Fyw Cronfa'r Loteri Fawr - menter dros dair blynedd yn defnyddio dulliau arloesol o wella iechyd plant sydd wedi cael eu hysbysu gan un o dri model a ddatblygwyd gan yr arbenigwyr ar iechyd a maethiad, Hall Aitken. Dan y model Tiwtoriaid Cartref Iach, mae LEANA wedi derbyn £373,058 i gyflwyno rhaglenni cyngor a chefnogi a fydd yn cael eu teilwra i gwrdd ag anghenion teuluoedd yn eu cartrefi eu hunain, a darparu gweithgareddau grŵp mewn lleoliadau cymunedol. Bydd y sesiynau yn ymarferol, yn hwyl ac yn ddeniadol a bydd y rhai un-i-un a'r rhai grŵp yn cynnwys y teulu cyfan. Dros y tair blynedd nesaf, bydd y Tiwtoriaid Cartref Iach yn darparu'r prosiect LEANA i deuluoedd o ardaloedd Penderi a'r Clâs/Caemawr a Threforys, gyda Chydlynydd dros Abertawe gyfan yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i gyflwyno'r prosiect i amrywiaeth o gymunedau o ddiddordeb, megis teuluoedd rhiant sengl, teuluoedd o gymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, neu deuluoedd sydd â phlant ag anghenion arbennig. Manylion Cyswllt y Prosiect Hannah Bemand / Marsha Feeney (Rhannu Swydd) e: Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. t: 01792 544000 Gwefan y Prosiect: http://www.scvs.org.uk/ |
No current events.