| Pump am Oes |
|
Mae 5 am Oes yn anelu at gynyddu llythrennedd iechyd 12,000 o blant yng Nghasnewydd dros y tair blynedd nesaf. Mae gan y prosiect ddwy neges allweddol i blant a'u teuluoedd: yn gyntaf i fwyta 5 dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd; ac yn ail i fod yn actif am 60 munud y dydd o leiaf 5 diwrnod yr wythnos. Gwneir hyn drwy ymweld ag ysgolion a chynnig gweithdai byw yn iach a sesiynau blasu mewn amrywiaeth o chwaraeon a gweithgareddau. Mae'r prosiect wedyn yn cynllunio gŵyl byw yn iach gyda'r plant ar gyfer y gymuned gan ddwyn ynghyd syniadau am fwydydd iach a gweithgareddau amrywiol i gael y teulu'n symud. Yn olaf, mae 5 am oes yn cyflwyno rhaglen 'Hwyl i'r Teulu' dros 6 wythnos; mae hyn yn rhoi cyfle i deuluoedd dysgu am fwyta'n iach, prynu am brisiau rhesymol, labeli bwyd a maethiad plant. Bydd plant yn cael cyfle i wneud amrywiaeth o weithgareddau ac yna byddant yn coginio amrywiaeth o brydau bwyd iach fel teulu. Manylion Cyswllt y Prosiect Lyndsay Crompton e: Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. t: 01633 261430 Gwefan y Prosiect: http://www.newport.gov.uk/_dc/index.cfm?fuseaction=health.going4gold&contentid=CONT327886 |
No current events.